CHANNEL 4 YN DYFARNU TENDR CYNHYRCHU GEMAU PARALYMPAIDD PARIS 2024 I WHISPER

Delwedd hyrwyddo o Jonnie Peacock

Cyhoeddwyd gan Channel 4

Bydd darllediadau Channel 4 o Gemau Paralympaidd Paris 2024 yn cael eu cynhyrchu gan y cwmni cynhyrchu annibynnol arobryn Whisper.

Dyfarnwyd y contract i Whisper ar ôl proses dendro helaeth a chystadleuol lle dangoswyd cynlluniau arloesol a chreadigol i adeiladu ar ddarllediadau Channel 4 o'r Gemau Paralympaidd sydd wedi denu clod ledled y byd.

Daeth Channel 4 yn Ddarlledwr Paralympaidd swyddogol y DU pan gymrodd yr awenau gyda Gemau Paralympaidd Llundain 2012, gemau sy’n aml yn cael eu crybwyll fel moment allweddol o ran newid sut mae’r cyhoedd yn meddwl am anabledd a chwaraeon anabledd.

Dywedodd Pete Andrews, Pennaeth Chwaraeon, Channel 4: "Mae darllediadau arloesol Channel 4 o'r Gemau Paralympaidd wedi cael cydnabyddiaeth fyd-eang ac rydyn ni’n ymroi i wthio'r ffiniau ymhellach o ran sut rydyn ni’n cyflwyno chwaraeon Paralympaidd i'n cynulleidfaoedd.

"Dangosodd Whisper eu bod yn cydsynio â dyheadau Channel 4 ar gyfer y Gemau Paralympaidd ac rydy ni’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda nhw i lywio sut mae ein darllediadau o'r Gemau yn parhau i osod y safon yn fyd-eang."

Mae’r ffordd y mae Channel 4 yn buddsoddi mewn ymgyrchoedd marchnata pwerus ac arobryn – Meet The Super Humans; We’re The Super Humans; Super. Human. - hefyd wedi bod yn allweddol wrth newid sut mae pobl yn meddwl am anabledd. Ac mae'r darlledwr wedi cyflwyno amrywiaeth o dalentau ar y sgrin yn eu darllediadau Paralympaidd dros y blynyddoedd, gan gynnwys Adam Hills, Alex Brooker, Sophie Morgan, JJ Chalmers, Ed Jackson ac Arthur Williams.

Dywedodd Mark Cole, Rheolwr Gyfarwyddwr Whisper: "Mae cael y cyfle i gynhyrchu Gemau Paralympaidd Paris 2024 yn beth gwych i’r holl dîm. Roedd cynhyrchu Gemau Paralympaidd Tokyo 2020 wir yn foment fawr i ni ac, ac mae cael y cyfle i'w wneud eto, a chyda llai o gyfyngiadau Covid y tro hwn, a chyda hyd yn oed mwy o ryddid o ran creadigrwydd ac uchelgais, yn rhywbeth cyffrous iawn.

"Ein nod bob amser yw apelio at gynulleidfa fawr, amrywiol ac i ddiddanu, a hynny gan adrodd straeon anhygoel yr athletwyr a'r Gemau. Rydyn ni’n parhau i ymroi i sicrhau cynrychiolaeth anabl gref ar y sgrin a thu ôl i'r camera, ac mae hynny’n mynd y tu hwnt i gyfnod cynhyrchu'r Gemau Paralympaidd.

"Mae cymaint o werthoedd y Gemau Paralympaidd a Channel 4 yn cyd-fynd â'n gwerthoedd ni; mae wir yn anrhydedd cael darparu hyn eto, a diolch enfawr i Channel 4 am eu cefnogaeth.”

Mae Whisper wedi sefydlu ei hun fel un o brif gwmnïau cynhyrchu'r DU, ac mae eu gwaith yn cynnwys pencampwriaeth merched Euro 2022 ar gyfer y BBC, Fformiwla Un ar gyfer Channel 4, Today at The Test ar gyfer y BBC, Women's Super League ar gyfer y BBC, a Gemau Paralympaidd Tokyo 2020 ar gyfer Channel 4.

Ychwanegodd Alex Mahon, Prif Weithredwr, Channel 4: "Ddegawd yn ôl, roedd Llundain 2012 yn foment allweddol pan lwyddodd Channel 4 i rannu a dathlu cyflawniadau'r athletwyr penigamp hyn â chynulleidfaoedd ledled y DU. Mae effaith ein rhaglenni wedi mynd â'n cynulleidfaoedd y tu hwnt i'r llwyddiannau anhygoel ar y trac a'r maes, ac rwy'n hynod falch bod cred ac ymroddiad Channel 4 i'r Gemau Paralympaidd wedi helpu i newid barn a chalonnau ein cynulleidfaoedd. Rydyn ni wedi helpu i newid sut mae’r cyhoedd yn meddwl am anabledd mewn ffordd gadarnhaol, ac fel darlledwr rydyn ni wedi creu cyfleoedd go iawn i bobl anabl greu gyrfaoedd ym maes darlledu, a hynny ar y sgrin ac oddi arno."

Pan ddyfarnwyd hawliau darlledu'r DU ar gyfer Gemau Paralympaidd Paris 2024 i Channel 4, dywedodd Arlywydd IPC, Andrew Parsons, fod y darlledwr gwasanaeth cyhoeddus wedi “creu'r glasbrint ar gyfer sut y gall darlledwr masnachol godi proffil chwaraeon Paralympaidd a gwneud newidiadau aruthrol i agweddau tuag at bobl anabl ac i ganfyddiadau ohonyn nhw”.

Mae hawliau Channel 4 i ddarlledu Gemau Paralympaidd Paris 2024 yn cynnwys hawliau darlledu aml-blatfform o fewn y DU, a bydd y darlledwr yn adeiladu ar ei rhaglenni clodwiw sydd wedi torri recordiau gwylio’r DU ar gyfer chwaraeon Paralympaidd sawl gwaith.

By using this website, you agree to our use of cookies. We use cookies to provide you with a great experience and to help our website run effectively.