CYNNWYS WHISPER AR RESTR LLEOEDD GORAU I WEITHIO BROADCAST AM Y PUMED TRO YN OLYNOL

Mae Whisper wedi cael eu cynnwys ar restr Lleoedd Gorau i Weithio Broadcast am y pumed tro yn olynol. Fe wnaeth y cwmni dderbyn y wobr am y tro cyntaf yn 2017 ac maen nhw wedi dal eu gafael arni ers hynny.

Nod y cynllun yw adnabod a chydnabod y cyflogwyr gorau ym myd teledu, ac mae’n cynnal arolygon o gyflogwyr ac aelodau'r tîm er mwyn cael darlun clir o sut mae cwmni'n gweithredu. Mae'r asesiad yn ymdrin â phob agwedd ar y cwmni, gan gynnwys arweinyddiaeth, cynllunio, diwylliant corfforaethol, amgylchedd gwaith, hyfforddiant a chyflogau.

Mae Whisper wedi tyfu'n sylweddol yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, a bellach mae ganddyn nhw dros 200 aelod o’u tîm ar draws y Whisper Group, sy'n cynnwys Whisper, Whisper Cymru, Whisper North, Whisper West, Chapter 3 Graphics, East Media a Moonshine Features. Mae eu cynnyrch yn cynnwys rhaglenni chwaraeon, rhaglenni heb eu sgriptio, dylunio, drama, adloniant wedi’i frandio a chynnwys digidol.

Mae aelodau'r tîm yn elwa o gael oriau gwaith hyblyg, mynediad at hyfforddwr bywyd, cwnsela a chyngor cyfreithiol rhad ac am ddim, cynllun rhannu elw, aelodaeth campfa wedi’i ariannu, amgylchedd gwaith amrywiol a chynhwysol, digwyddiadau cymdeithasol ar gyfer y tîm ac oriau gorffen cynnar yn yr haf.

Ers ei sefydlu yn 2010, mae Whisper wedi canolbwyntio ar weithio gyda’r gorau yn y diwydiant ac ar feithrin talent newydd. Mewn partneriaeth â Mama Youth, maen nhw’n cynnig cyfleoedd mentora, hyfforddiant a chyflogaeth.

Dywedodd Sunil Patel, Prif Swyddog Gweithredol: "Yn Whisper, ein hased pwysicaf a mwyaf gwerthfawr yw ein pobl. Mae cynnal ein statws fel un o Leoedd Gorau i Weithio Broadcast am y pumed tro yn olynol, yn dilyn dwy flynedd sydd wedi bod yn anodd i'r diwydiant cyfan, yn dyst gwirioneddol i ysbryd ac agwedd y bobl sy’n gweithio gyda ni.

"Rydyn ni’n angerddol dros gynhwysiant ac amrywiaeth, ac rydyn ni’n gweithio'n galed i sicrhau bod ein tîm yn cynrychioli'r byd rydyn ni’n byw ynddo. Drwy sicrhau bod gennym dîm amrywiol sydd wedi’u grymuso, gallwn adrodd straeon anhygoel sy'n gallu apelio at gynulleidfaoedd eang.

"Mae'r tîm yn gweithio'n galed i greu cynnyrch uchelgeisiol, felly rydyn ni’n gweithio gyda nhw yn barhaus er mwyn asesu ein hamgylchedd gwaith ac i weithredu mesurau a all sicrhau cydbwysedd bywyd/gwaith iach a hyblyg ar draws y busnes."

Gallwch wylio'r ffilm yma

By using this website, you agree to our use of cookies. We use cookies to provide you with a great experience and to help our website run effectively.