WHISPER WEDI’U CYNNWYS YN RHESTR LLEOEDD GORAU I WEITHIO BROADCAST AM Y CHWECHED TRO

Mae’r cwmni cynhyrchu aml-genre blaenllaw, Whisper, wedi’u cynnwys ar restr Lleoedd Gorau i Weithio Broadcast 2023. Dyma'r chweched tro yn olynol i Whisper dderbyn yr anrhydedd, ac maen nhw wedi cadw'r teitl ers iddyn nhw ei ennill gyntaf yn 2017.

Ar ôl sawl blwyddyn o ehangu, mae gan Grŵp Whisper bum swyddfa wahanol ar draws y byd a thros 230 aelod o’r tîm bellach. Eleni, mae derbyn y wobr yn fwy gwerthfawr nag erioed, gan iddyn nhw gadw’r anrhydedd yn ystod cyfnod o ehangu - pan gynhyrchwyd nifer o raglenni mawr fel Riddiculous, Fformiwla Un ar gyfer C4, EURO 2022 y Merched ar gyfer BBC, a Ben Stokes: Phoenix from the Ashes gyda Sam Mendes ar gyfer Amazon Prime.

Bob blwyddyn mae cynllun Lleoedd Gorau i Weithio Broadcast yn nodi ac yn cydnabod y cyflogwyr gorau ym myd teledu. Mae'r cynllun yn asesu cwmnïau trwy anfon arolwg i’r holl staff ac mae’n gwerthuso pob agwedd ar y cwmni, gan gynnwys arweinyddiaeth a chynllunio, diwylliant corfforaethol, amgylchedd gwaith, hyfforddiant, cyflogau a phrofiad. Y sgôr dilynol sy'n penderfynu pwy sy'n cael eu henwi fel un o’r Lleoedd Gorau i Weithio.

Ers 2010, mae Whisper wedi canolbwyntio ar gydweithio â’r goreuon yn y diwydiant ac ar feithrin talent newydd. Mae aelodau'r tîm yn mwynhau oriau gwaith hyblyg, gwasanaeth cwnsela a chyngor cyfreithiol am ddim, cynllun rhannu elw, brecwast am ddim, gorffen yn gynnar ar ddyddiau Gwener, ac amgylchedd gweithio amrywiol a chynhwysol gyda digwyddiadau cymdeithasol am ddim.

Mae'r cwmni hefyd yn cynnal rhaglen interniaeth mewn partneriaeth â Chlwb Pêl Droed Brentford er mwyn cynnig llwybr i dalent newydd ymuno â’r diwydiant, yn ogystal ag ymgyrch arobryn 'Get Involved' sy’n ceisio denu amrywiaeth ehangach o dalent i'r cwmni o grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli.

Sunil Patel, Cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Whisper: "Mae gennym ffocws cryf ar ddiwylliant yma yn Whisper. Ers y dyddiau cynnar, mae cynnal pwy ydyn ni a sut rydyn ni'n gwneud pethau wrth i ni ehangu yn hollbwysig. Mae gweld ein tîm o dros 230 o bobl ledled y byd yn cyflwyno eiliadau eiconig fel Pencapwriaeth Ewros y Merched, Y Gemau Paralympaidd neu raglen adloniant newydd sbon ar ITV, a hynny yn null Whisper, yn golygu cymaint.

"Pobl yw craidd Whisper fel cwmni. Rydyn ni'n credu y dylai'r tîm gynrychioli'r byd rydyn ni’n gweithio ynddo, ac y dylen nhw fod yn hapus a theimlo fel eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Rydyn ni bob amser yn gofyn am adborth ar ffyrdd y gallwn wella, gan weithredu cymaint o fesurau ag y gallwn er mwyn sicrhau bod timau'n teimlo eu bod yn cael eu gwobrwyo â chydbwysedd gwaith/bywyd da."

Dyma rai o’r sylwadau a gafwyd yn yr arolwg tîm: 'Personol a chyfeillgar', 'Arweinyddiaeth a rheolaeth gref’, 'Pwyslais ar greadigrwydd, amrywiaeth a gwaith tîm' ac 'Amgylchedd hynod gadarnhaol'.

Bellach mae gan Whisper swyddfeydd yn Llundain, Manceinion, Caerdydd, Maidenhead ac Auckland, ac mae Grŵp Whisper yn cynnwys Whisper, Whisper Cymru, Whisper North, Whisper West, Chapter 3 Graphics, East Media a Moonshine Features.

By using this website, you agree to our use of cookies. We use cookies to provide you with a great experience and to help our website run effectively.