RHAGLEN DDOGFEN BEN STOKES, GYDA SAM MENDES, I’W DANGOS AM Y TRO CYNTAF AR PRIME VIDEO

Bydd Ben Stokes: Phoenix from the Ashes, Rhaglen Ddogfen Amazon Original Newydd gyda Sam Mendes, i’w gweld ledled y byd yn hwyrach eleni ar Prime Video

Mae Ben Stokes: Pheonix from the Ashes yn trin a thrafod uchafbwyntiau ac isafbwyntiau capten criced Lloegr yn dilyn cyfnod heriol yn ei fywyd personol a phroffesiynol

Bydd y ffilm, sydd hefyd yn cynnwys Sam Mendes, i’w gweld ledled y byd am y tro cyntaf ar Prime Video yn hwyrach eleni

Gallwch gael cipolwg ohoni yma

Cyhoeddodd Prime Video heddiw y byddant yn lansio rhaglen ddogfen wreiddiol ar fywyd a gyrfa capten criced Lloegr, Ben Stokes, yn hwyrach ymlaen eleni. Gwnaed y cyhoeddiad yn y Prime Video Presents Showcase yn Llundain, lle bu Stokes yn siarad â’r cyfarwyddwr a’r enillydd Oscar Sam Mendes (1917) mewn cyfweliad a recordiwyd ymlaen llaw, a hynny er mwyn egluro ei resymeg dros wneud y rhaglen ddogfen ac i adael i eraill gael cipolwg ar stori ei fywyd.

Wedi’i chynhyrchu gan Whisper, crëwyd Ben Stokes: Phoenix from the Ashes gyda’r cyfarwyddwr a’r enillydd Oscar, Sam Mendes, sy'n ymddangos ar y sgrin mewn cyfres o gyfweliadau i drafod uchafbwyntiau ac isafbwyntiau gyrfa'r eicon criced. Mae’r rhaglen ddogfen yn adrodd hanes taith Ben, gan drafod ei lwyddiannau yng Nghwpan y Byd a’i gampau ar y cae yn Headingley yn ogystal â'i isafbwyntiau a ddaeth ar draul bersonol enfawr, ac a berodd iddo orfod gadael y gêm am gyfnod.

Llwyddodd y criw i ddal eiliadau mwyaf personol a heriol Ben ar ffilm, gan gynnwys ei ymweliad olaf â’i dad, oedd â salwch angheuol, yn ogystal â’i drafferthion gydag iechyd meddwl. Mae’r ffanatig criced Sam Mendes yn ymuno â Ben ar y sgrin wrth iddo adrodd ei hanes, a Mendes oedd cynhyrchydd gweithredol y ffilm hefyd. Mae Ben Stokes: Phoenix from the Ashes yn cynnwys cyfweliadau agos-atoch gyda thad Ben, ei fam, ei wraig a'i blant ynghyd â ffrindiau, teulu ei gyn gyd-chwaraewyr a rhai a chwaraeodd yn ei erbyn, gan gynnwys: Joe Root, Jofra Archer, Neil Fairbrother a’r diweddar Shane Warne.

Ar ôl y datgeliad yn Prime Video Presents, dywedodd Stokes, "Un peth dwi am geisio ei wneud gyda hyn yw dangos ochr o’n hun sy'n eithaf anodd ei dangos, o ystyried sut rydyn ni i fod i ymddangos ar y teledu. Mae rhai agweddau yn y cyfryngau yn gorfod cael eu trin mewn ffyrdd penodol, rhaid ymddwyn mewn ffordd benodol, er mwyn plesio nifer penodol o bobl, ond gyda’r ffilm hon dw i ddim yn teimlo fel fy mod i'n gorfod gwneud hynny.

“Dwi'n dal i feddwl ei bod hi'n wallgof fy mod i’n eistedd yma gyda rhaglen ddogfen wedi cael ei gwneud amdana i. Ac ar ben hynny, bod Sam wedi dod i wneud y cyfweliadau. Mae'r holl beth yn wirion bost pan fydda i’n meddwl amdano."

Dywedodd Sam Mendes, "Pan wnaethon nhw ofyn i mi fod yn rhan o'r rhaglen ddogfen wych hon, cytunais o fewn rhyw ddeg eiliad. Mae 'na ddirgelwch o gwmpas Ben Stokes, a llawer o gwestiynau ro'n i eisiau eu gofyn. Er mawr syndod i mi, fe atebodd bob un.

"Roeddwn i wastad yn ffan o Ben fel cricedwr - does dim modd peidio os ydych chi'n hoffi chwaraeon ar y lefel uchaf - ond mae fy edmygedd bellach yn ymestyn ymhell y tu hwnt i ffiniau criced."

Mae Ben Stokes: Phoenix from the Ashes wedi'i chyfarwyddo gan Chris Grubb a Luke Mellows, gyda Sam Mendes, Mark Cole a Sunil Patel yn gynhyrchwyr gweithredol.

By using this website, you agree to our use of cookies. We use cookies to provide you with a great experience and to help our website run effectively.