CYNHWYSIANT ANABLEDD YN MYND Y TU HWNT I’R GEMAU PARALYMPAIDD

Cynhyrchu Gemau Paralympaidd Tokyo 2020

Ddeuddydd cyn dechrau Gemau Paralympaidd Gaeaf Beijing, mae Whisper yn falch o gadarnhau eu bod wedi cyflogi pedwar aelod newydd i’w tîm llawn amser, a hynny yn dilyn galwad am dalent cynhyrchu anabl yn sgil Gemau Paralympaidd Tokyo 2020.

Nod Whisper yw dyblu'r ffigwr yma erbyn diwedd yr Haf, 2022.

Ar ôl Gemau Paralympaidd 2020, rhoddodd Whisper alwad ledled y wlad er mwyn canfod talent anabl sydd â diddordeb mewn gyrfa mewn Cynhyrchu Chwaraeon. Roedd y cynllun yn agored i bobl â phrofiad yn ogystal â rhai dibrofiad, ac roedd yn cynnwys digwyddiad rhwydweithio Whisper a chyfres o gyfweliadau.

Mae llwyddiant y cynllun yn dod yn sgil cadarnhad gan Channel 4 y bydd tîm cyflwyno Gemau Paralympaidd y Gaeaf Beijing, a fydd yn cael ei gynhyrchu gan Whisper, yn 100% anabl. Channel 4 yw'r darlledwr cyntaf yn y byd i wneud hyn.

Mae hyn yn tanlinellu ymrwymiad Channel 4 a Whisper i ddarparu cyfleoedd i bobl ag anableddau ac mae’n cyd-fynd ag addewid Whisper i ehangu talent anabl y tu ôl i'r camera.

Y llynedd, datgelodd adroddiad Diamond Diversity y Creative Diversity Network (CDN) mai dim ond 0.9% o gynnydd a fu mewn pedair blynedd o ran nifer y bobl anabl sy'n gweithio y tu ôl i'r camera ar draws y diwydiant (4.5% yn 2017, i 5.4% yn 2020)

Yn ôl yr adroddiad, 'Os cynhelir y gyfradd hon o ran cynnydd, bydd rhaid aros tan 2028 cyn y cyrhaeddir y targed a osodwyd gan Doubling Disability o gael 9% o dalent oddi ar y sgrin yn anabl. Ni fydd y diwydiant yn gynrychioliadol o boblogaeth oedran gweithio'r DU, sydd yn 20% anabl ar hyn o bryd (Powell, 2021; ONS, 2021a), tan 2041 ar y cynharaf' (CDN 2020).

Y gred y tu ôl i addewid unigol Whisper yw bod angen i ni gyd weithredu os ydyn ni am weld newid yn ein diwydiant.

Dywedodd Sunil Patel, Prif Swyddog Gweithredol Whisper: "Roeddwn i'n teimlo'n gryf iawn yn ystod Gemau Paralympaidd Tokyo y dylid parhau â’r momentwm a grëwyd o ran cynhwysiant a newid cadarnhaol. Yn Whisper, rydyn ni’n credu ‘Allwch chi ddim bod yn rhywbeth oni bai eich bod yn ei weld’, ac mae hynny’n berthnasol i'r rhai y tu ôl i'r camera yn ogystal â’r rhai o'i flaen. Rwy'n falch iawn ein bod ni eisoes wedi derbyn rhagor o aelodau talentog ac anabl i'r tîm, a hynny oherwydd yr alwad a wnaed ar ôl y gemau, a bod mwy o aelodau posibl ar y ffordd hefyd."

Yn ystod ein darllediadau o Gemau Tokyo roedd 16% o dîm cynhyrchu Whisper yn anabl ac, yn ystod Gemau Paralympaidd y Gaeaf Beijing 2022, bydd hyn yn cynyddu i 18% - ffigwr sy’n agos at adlewyrchu canran y bobl anabl sydd ar hyn o bryd ym mhoblogaeth oedran gweithio'r DU (20%).

Gallwch weld galwad wreiddiol Whisper, sy'n cynnwys talent o'r Gemau Paralympaidd, yma: https://bit.ly/3HeHj4i 

Bydd Gemau Paralympaidd Gaeaf Beijing yn dechrau ar 4 Mawrth, 2022.

By using this website, you agree to our use of cookies. We use cookies to provide you with a great experience and to help our website run effectively.