CYFLEUSTER CYNHYRCHU O BELL HYGYRCH A NEWYDD YN AGOR YNG NGHAERDYDD, CYN CYFLWYNO DARLLEDIADAU CHANNEL 4 O GEMAU PARALYMPAIDD PARIS 2024

Heddiw, mae Cymru Greadigol, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR), Whisper Cymru, Tramshed Tech a Channel 4 yn cyhoeddi agoriad swyddogol ‘Canolfan Darlledu Cymru’, cyfleuster cynhyrchu o bell cwbl hygyrch ger Caerdydd Canolog.

Wedi'i leoli yn Tramshed Tech, mae'r ganolfan yn cynnig cyfleuster cynhyrchu amlbwrpas o'r radd flaenaf sy'n cynnwys popeth sydd ei angen i ddarparu cynyrchiadau byd-eang o bell ar raddfa fawr, a fydd yn dod â chyfleoedd newydd a chynyddol i'r rhanbarth.

Wedi'i dylunio a'i hadeiladu cyn cyflwyno darllediadau Gemau Paralympaidd Paris 2024 ar gyfer Channel 4, sy'n dechrau ar 28 Awst, mae'r Ganolfan hefyd wedi'i chynllunio i fod yn un o'r canolfannau cynhyrchu o bell mwyaf hygyrch yn Ewrop.

O safbwynt technegol, mae’r adnoddau arbenigol yn cynnwys ystafell offer ganolog, 2 ystafell reoli cynyrchiadau ac ystafelloedd rheoli sain, prif ystafell reoli, ystafelloedd golygu lluosog, 2 swyddfa gynhyrchu ac ystafell arolygu. Fe fydd y cyfarpar yn y Ganolfan yn helpu i ddarparu darllediadau o ansawdd uchel, cynhyrchu effeithlon a throsglwyddo cynnwys yn ddi-dor. Yn ogystal, bydd cysylltedd amrywiol yn dod i’r Ganolfan gan arweinwyr y diwydiant BMC dros wifrau ffibr Open Reach ac Ogi. Mae Timeline TV wedi helpu i ddylunio a pharatoi cyfarpar y Ganolfan a bydd yn gweithredu'r gofod ar ôl i'r Gemau Paralympaidd ddod i ben.

Yn ogystal â chreu cyfleuster cynhyrchu o bell hygyrch, cyd-ariannodd y consortiwm cyfryngau Media Cymru a Channel 4 ymchwil a datblygiad ynghylch hygyrchedd mewn cynyrchiadau byw ar y cyd â The Ability People. Yr uchelgais yw i'r adroddiad Ymchwil a Datblygu weithredu fel astudiaeth achos ar gyfer cyfleusterau technegol eraill i'w defnyddio fel arfer gorau ac i rannu'r hyn a ddysgwyd, i wneud cynyrchiadau yn hygyrch i bawb.

Mae'r cyfleusterau'n cynnwys toiled gyda mannau newid, llwybrau cerdded llydan, rampiau, drysau trydanol ac arwyddion hygyrch. Rhoddwyd sylw hefyd i gynlluniau lliw ac arwyddion y Ganolfan drwyddi draw er mwyn sicrhau y gall Canolfan Darlledu Cymru gael ei defnyddio gan yr ystod fwyaf eang o bobl.

Bydd Channel 4 a’i bartner cynhyrchu Whisper yn darparu mwy na 1,300 awr o gynnwys o’r Ganolfan, gan gynnwys 300 awr o ddarllediadau ar gyfer teledu llinol, ynghyd â 1,000 awr o ddarllediadau ar 16 ffrwd byw. Bydd dros 200 o unigolion yn gweithio dros gyfnod y Cynhyrchiad.

Bydd Canolfan Darlledu Cymru yn etifeddiaeth o ddarllediadau Channel 4 o’r Gemau Paralympaidd a disgwylir iddo ddod â mwy o gynhyrchiant i Gaerdydd a chyfleoedd newydd o fewn y diwydiant. Dyma ddatblygiad diweddaraf Whisper yn y rhanbarth, sydd wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn cynyrchiadau Cymreig bob blwyddyn ers sefydlu Whisper Cymru yn 2019.

Mae mwy o gynyrchiadau rhyngwladol eisoes ar y gweill, ac mae cyfres o gynlluniau hyfforddi lefel mynediad wedi’u cynllunio ar gyfer y Ganolfan.

Stuart Frayne, Pennaeth Cydweithrediadau Technegol CDC: “Fel peiriannydd sy’n gweithio ym maes cynhyrchu byw ar draws darllediadau adloniant, newyddion a chwaraeon, rydw i wedi bod yn ymwneud â digwyddiadau mawr byd-eang fel ATP Tennis, F1, Moto GP, Cwpan y Byd FIFA 2022, Cwpan Ryder 2023 a Wimbledon 2024. Mae’n gyfle gwych i fod yn bennaeth ar y cyfleusterau technegol yma yn y cyfleuster cynhyrchu o bell cwbl hygyrch cyntaf yng Nghymru. Ynghyd â’n partneriaid Timeline TV, sy’n dod â chyfoeth o brofiad mewn technolegau darlledu confensiynol a’r diweddaraf mewn arloesiadau cynhyrchu o bell, gall dyluniad hyblyg y Ganolfan Ddarlledu hwyluso ystod eang o anghenion cynhyrchu.

“Ar nodyn personol, mae’n wych cael cyfleuster fel hwn yng Nghymru, gan ddod â fi yn ôl adref. Rwy’n edrych ymlaen at ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o dalent darlledu technegol a gweld sut y gall y cyfleuster adael effaith barhaol ar y gymuned ddarlledu ehangach yng Nghymru.”

Sunil Patel, Cyd-Sylfaenydd a Phrif Weithredwr, Whisper: “Y weledigaeth nôl yn 2019 oedd buddsoddi’n ystyrlon yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar bobl a chynhyrchu byd-eang. Roedd gweithio gyda’r talent lleol orau a meithrin y genhedlaeth nesaf yn flaenllaw yn ein cynlluniau – ac erbyn hyn mae gennym dîm o 30+ o bobl yng Nghaerdydd, yn ogystal ag Academi Whisper.

“Mae dod â Gemau Paralympaidd Paris 2024 Channel 4 i Gaerdydd yn golygu y bydd yn un o’r cynyrchiadau chwaraeon mwyaf i ddod allan o’r wlad, gyda mwy i ddod yn 2025. Mae Canolfan Darlledu Cymru yn crisialu syniad a fydd yn effeithio ar newid cadarnhaol yng Nghymru ac yn sicrhau etifeddiaeth barhaus. Mae’n ddigwyddiad pwysig i ni gyd yn Whisper.”

Alex Mahon, Prif Weithredwr Channel 4: “Mae gwireddu Canolfan Darlledu Cymru, canolfan ddarlledu gwbwl hygyrch o’r radd flaenaf yng Nghaerdydd, yn cyd-fynd â phopeth y mae Channel 4 yn sefyll amdano. Mae’n enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni pan fyddwn yn cyd-weithio gyda ffocws i wneud ein diwydiant yn hygyrch i bawb. Mae’n gaffaeliad gwych i Gaerdydd ac rydw i wrth fy modd mai ei darllediad cyntaf fydd darllediadau Channel 4 o Gemau Paralympaidd Paris 2024.”

Y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy a Chadeirydd Pwyllgor Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (PRC): “Mae Canolfan Darlledu Cymru yn enghraifft wych o weithio mewn partneriaeth, ac yn dyst i’r Diwydiannau Creadigol cynyddol, un o’r sectorau blaenoriaeth allweddol yn ein Rhanbarth. Mae’r prosiect hwn yn cyd-fynd yn hyfryd ag amcanion craidd PRC o fewn ein cynllun Economaidd a Diwydiannol Rhanbarthol gan gynnwys ymchwil ac arloesi, mentrau technoleg werdd, datblygu seilwaith, yn ogystal â sgiliau a hyfforddiant, fel bod ein Rhanbarth yn denu, ond hefyd yn cadw talent leol. Rwy’n falch bod ein cyllid PRC, ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru a Whisper Cymru, yn galluogi rhai o ddigwyddiadau chwaraeon mwyaf y byd i gael eu darlledu’n fyw o Gaerdydd i gynulleidfaoedd ledled y byd. Mae’n glod i bawb sy’n gysylltiedig, ac mae cyffro i’w weld gyda’r Gemau Paralympaidd sydd ar fin cychwyn yn fuan.”

Dywedodd Jack Sargeant, Gweinidog y Diwydiannau Creadigol Llywodraeth Cymru: “Rwyf mor falch bod Llywodraeth Cymru a Chymru Greadigol wedi bod yn gweithio’n agos gyda Whisper, Tramshed Tech, a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd i sefydlu Canolfan Darlledu Cymru. Mae’r cyfleuster yn dod â buddsoddiad sylweddol a chyfleoedd newydd i Gaerdydd, gan gryfhau ymhellach enw da ein prifddinas fel arweinydd yn y diwydiant ffilm a theledu. Mae’r ffaith ei fod yn un o’r canolfannau cynhyrchu o bell mwyaf hygyrch yn Ewrop yn sicrhau bod cyfleoedd yn y sector hwn yn agored i bawb. Mae’r buddsoddiad hwn nid yn unig yn rhoi hwb i’n sector creadigol ond hefyd yn amlygu ymrwymiad Cymru i arloesi a chynhwysiant ar raddfa fyd-eang.”

By using this website, you agree to our use of cookies. We use cookies to provide you with a great experience and to help our website run effectively.