UKTV YN COMISIYNU THE BEAUTY REWIND CLINIC, GYDA VICK HOPE A DR ESHO

Mae W, sef sianel adloniant ffeithiol UKTV, wedi comisiynu cyfres UKTV wreiddiol newydd sbon o’r enw The Beauty Rewind Clinic (10X60’), sydd wedi’i chynhyrchu gan Whisper. Caiff y rhaglen ei chyflwyno gan y cyflwynydd teledu a BBC Radio1 Vick Hope, ynghyd â Dr Esho, sydd ar flaen y gad yn y diwydiant triniaethau sydd ddim yn rhai llawfeddygol, a chyda'i gilydd mae'r ddau yn helpu'r genedl i gofleidio eu naturioldeb.

Yn y gyfres hon, byddwn yn dilyn aelodau'r cyhoedd sy’n awyddus i ddadwneud blynyddoedd o driniaethau a gafodd eu hysbrydoli gan y cyfryngau cymdeithasol, gyda’r nod o edrych yn fwy naturiol. Ym mhob pennod, bydd Dr Esho yn cynnig ei arbenigedd yn y clinig, a Vick yn cynnig cwmni ar bob cam o'r ffordd, gan eu helpu i benderfynu pa newidiadau i’w gwneud a chynnig cysur pan fyddant ei angen.

Dywedodd Vick Hope, "Mae hon yn sioe gynnes a phositif, mae’n dathlu hunanhyder, yn tynnu sylw at hunanwerth, ac yn annog hunangariad. Mewn byd lle rydyn ni'n cael ein cyflyru i geisio cyrraedd delfrydau prydferthwch sy’n homogenaidd ac yn aml yn afrealistig, ac weithiau’n defnyddio triniaethau peryglus i wneud hynny, rydw i wastad wedi ceisio lledaenu'r neges mai'r hyn sy'n ein gwneud ni'n wahanol yw'r hyn sy'n ein gwneud ni'n hardd, a’n bod ni’n ddigon fel yr ydyn ni."

"Mae pawb sy'n cerdded trwy ddrysau The Beauty Rewind Clinic yn unigryw ac yn wych, ac mae'n gymaint o bleser i ymuno â nhw ar eu taith i ddiosg y pwysau sydd arnyn nhw i newid y ffordd maen nhw'n edrych, i garu sut maen nhw yn naturiol, ac i ganfod cryfder a balchder o ran pwy ydyn nhw, ar y tu mewn ac ar y tu allan"

Dywedodd Dr Esho, "Y grefft yn fy ngwaith i yw helpu fy nghleientiaid i fagu hyder yn eu hedrychiad. Rydyn ni'n anghofio y gall nodweddion corfforol gael effaith seicolegol enfawr arnom ni. Mae gallu newid hynny mewn ychydig eiliadau yn deimlad anhygoel. Mae sianel W wastad wedi bod o blaid dathlu pobl go iawn a’u grymuso yn eu bywydau bob dydd, felly roedd bod yn rhan o’r rhaglen hon yn teimlo’n naturiol iawn i mi."

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae’r agweddau tuag at driniaethau nad ydyn nhw’n rhai llawfeddygol wedi newid, gyda llawer o enwogion a dylanwadwyr yn dewis cael gwared ar eu fillers a’u mewnblaniadau. Bydd gwylwyr yn gallu dilyn hanesion a theithiau'r rhai sy’n cefnu ar ddiwydiant sydd werth biliynau o bunnoedd ac yn dysgu derbyn eu cyrff yn union fel y maen nhw.

Comisiynwyd The Beauty Rewind Clinic ar gyfer UKTV gan Kirsty Hanson, golygydd comisiynu, gyda Hilary Rosen, dirprwy gyfarwyddwr comisiynu a phennaeth adloniant ffeithiol, ac fe’i harchebwyd gan Adam Collings, cyfarwyddwr sianel W. Richard Watsham yw’r cyfarwyddwr comisiynu a Steve North yw’r rheolwr genre cyffredinol, comedi ac adloniant. Y cynhyrchydd gweithredol ar gyfer Whisper yw Helen Warner.

Dywedodd Adam Collings, "Rydyn ni’n falch o gyflwyno The Rewind Beauty Clinic i'n gwylwyr ar W. Mae'n gipolwg amserol ar y pwysau sydd ar y cyhoedd i edrych rhyw ffordd benodol, a hynny trwy ddefnyddio llawdriniaethau a thriniaethau, ac mae’n annog ein cyfranwyr i ddychwelyd at edrychiad mwy naturiol. Mae The Beauty Rewind Clinic yn trafod sut mae unigolion yn cael eu heffeithio gan y diwydiant enfawr hwn mewn ffordd drawiadol a difyr, ond sydd hefyd yn sensitif, ac mae'n teimlo'n hollol ffres. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn arw i bobl ei weld."

Dywedodd Kirsty Hanson, "Rydyn ni’n falch iawn o gyflwyno cyfres newydd sbon i W, sy'n trafod y duedd fwyfwy poblogaidd o ddadwneud triniaethau cosmetig. Yr hyn rydyn ni'n ei obeithio yw y bydd y gyfres hon yn helpu merched i dderbyn eu hunain fel ag y maen nhw yn naturiol, ac i ddiosg y disgwyliadau mae’r cyfryngau cymdeithasol yn eu gosod arnom ni. Vick Hope a Dr Esho oedd y pâr perffaith i helpu ein cyfranwyr ar eu taith i gael edrychiad mwy naturiol, ac rydyn ni’n gobeithio y bydd ein gwylwyr yn mwynhau The Beauty Rewind Clinic cymaint ag y gwnaethom ni fwynhau ei greu"

Dywedodd Helen Warner, "Rydyn ni’n gobeithio y bydd The Beauty Rewind Clinic yn gallu bod yn rhan o sgwrs genedlaethol am fanteision ailddarganfod a derbyn ein harddwch naturiol. 

"Roedd hi’n wych cael cwmni Vick Hope a Dr Esho wrth ddilyn straeon y rhai sydd wedi laru ar geisio gwireddu breuddwyd amhosibl trwy gael triniaethau diddiwedd. Mae’r datgeliadau ar y diwedd yn hynod bwerus, pan fo teulu a ffrindiau’n cael gweld y person heb y triniaethau, weithiau am y tro cyntaf erioed".

"Mae W yn ymgorffori'r ymadrodd 'bywyd heb ffiltr' ac mae The Beauty Rewind Clinic wir yn dangos hynny."

Bydd The Beauty Rewind Clinic yn cael ei darlledu ar W, sianel darlledu am ddim UKTV, fel rhan o lechen o raglenni gwreiddiol newydd. Mae The Beauty Rewind Clinic hefyd ar gael ar UKTV Play.

By using this website, you agree to our use of cookies. We use cookies to provide you with a great experience and to help our website run effectively.