Bydd tîm rygbi’r Llewod ar y cyd ag Undeb Rygbi De Affrica yn rhyddhau rhaglen ddogfen tair-rhan hirddisgwyliedig sy’n rhoi cip y tu ôl i'r llenni ar daith 2021 y Llewod.
Mae'r gyfres ddogfen 'Two Sides' wedi'i chynhyrchu gan Whisper a T + W ar y cyd, a bydd yn dilyn yr hyn a ddigwyddodd yng ngwersylloedd y Springboks a'r Llewod yn ystod Taith De Affrica 2021.
Mae 'Two Sides' yn osgoi’r fformat traddodiadol wrth adrodd hanes y Llewod a'r Springboks yn ystod y daith gyntaf i Dde Affrica ers 2009. Mae'r rhaglen ddogfen pry-ar-y-wal yn dangos y ddwy garfan yn ystod cyfres hynod ddiddorol o gemau, cyfres a gwblhawyd yn llwyddiannus er gwaethaf amgylchedd heriol y pandemig byd-eang.
Dyma'r diweddaraf mewn cyfres hir o raglenni dogfen llwyddiannus am Deithiau’r Llewod, gan gynnwys 'Living with Lions' a ryddhawyd 25 mlynedd yn ôl.
Yn ogystal â chynnig cipolwg hynod ddifyr ar baratoadau'r timau ac ar yr hyn a ddigwyddodd yn ystod y gemau, bydd y rhaglen ddogfen hefyd yn cynnig cyfle prin i gefnogwyr weld sut mae’r digwyddiad chwaraeon unigryw a chofiadwy yn gweithio.
Mae’r Llewod ac Undeb Rygbi De Affrica yn falch iawn o gyflwyno’r gyfres dair rhan hon i gefnogwyr gyda'n partner darlledu ITV a'r noddwr darlledu Vodafone. Bydd manylion o ran ble bydd y rhaglen ddogfen yn cael ei dangos mewn tiriogaethau eraill yn cael eu cyhoeddi maes o law.
Bydd y tair pennod awr o hyd o Two Sides, a gynhyrchwyd gan Whisper a T + W, i'w gweld ddydd Sul 19 Mehefin (10.20pm BST); ddydd Llun 20 Mehefin (10.45pm); a dydd Mawrth 21 Mehefin (10.45pm). Bydd y bennod gyntaf ar ITV1 yn cael ei darlledu'r nos Sul yma am 10.20pm (19 Mehefin).
Wrth drafod y rhaglen ddogfen newydd, dywedodd Ben Calveley, Rheolwr Gyfarwyddwr y Llewod: "Mae cysylltiad annatod rhwng y Llewod a rhaglenni dogfen. Ers 'Living With Lions' yn 1997, mae'r Llewod wedi cynhyrchu rhaglenni dogfen ar gyfer pob taith ddilynol sy’n cynnig cip y tu ôl i'r llenni i gefnogwyr. Mae'r rhaglen ddogfen benodol hon yn dangos sut aeth y ddwy ochr ati i wynebu'r her ddigynsail o gynnal digwyddiad chwaraeon mawr yn ystod pandemig byd-eang."
Ychwanegodd Jurie Roux, Prif Weithredwr Undeb Rygbi De Affrica: "Rwy'n gwybod bydd y rhaglen ddogfen hon yn hynod ddiddorol a difyr i gefnogwyr rygbi, a’r tro hwn bydd y twist ychwanegol o gael golwg pry-ar-y-wal o'r ddau wersyll sy'n rhan o'r daith unigryw hon. Rydyn ni’n falch iawn o weithio mewn partneriaeth â’r Llewod ar Two Sides, a bydd yn ddogfen hanesyddol wych i gefnogwyr rygbi am ddegawdau i ddod."