Mae Whisper wedi’i apwyntio fel Partner Cynhyrchu ar gyfer nosweithiau paffio rhad ac am ddim Channel 5, mewn cydweithrediad â Wasserman Boxing. Mae’r cyntaf o’r ddau ddigwyddiad ar 24 a 31 Mawrth.
Gan weithio ochr-yn-ochr â’r hyrwyddwyr Wasserman Boxing, mae'r sylw'n dechrau gyda gornest teitl y byd i Lyndon Arthur, wrth iddo wynebu Braian Nahuel Suarez ar gyfer Pencampwriaeth Pwysau Godrwm yr IBO ar Fawrth 24 yn Bolton. Yna, ar Fawrth 31, fe fydd Harlem Eubank yn dychwelyd i Neuadd Efrog eiconig Llundain wrth iddo barhau i ddringo i fyny'r safleoedd Pwysau Gor-Ysgafn yn erbyn Christian Uruzquieta o Fecsico.
Fe fydd y ddau ddigwyddiad rhaid-eu-gweld yn cael eu darlledu’n fyw ac yn unigryw ar Channel 5 a’r unig bocsio rhad ac am ddim i’w weld ar deledu llinol yn y DU.
Mae enw da Whisper o ddarlledu y math yma o chwaraeon yn parhau i dyfu. Y llynedd, cyflwynodd Ddarllediad Gwesteiwr All-lif y Byd o’r ornest ailgyfateb pwysau trwm The Rage on the Red Sea, rhwng Oleksandr Usyk v Anthony Joshua II, a ddarlledwyd mewn dros 180 o wledydd. Ym mis Chwefror eleni, cyflwynodd y brif ddarllediad o frwydr fawr pwysau godrwm Jake Paul v Tommy Fury. Mae Whisper hefyd yn cynhyrchu Bellator ar gyfer y BBC.
Mae tîm cynhyrchu Whisper yn cynnwys Pete Thomas, sydd wedi gweithio ym maes bocsio ers 15 mlynedd a mwy, gan gynnwys gornestau teitl y byd gyda Oleksandr Usyk, Joe Calzaghe, Amir Khan a Carl Froch. Yn ymuno ag ef y mae’r Cynhyrchydd Gweithredol John Curtis sydd â chyfoeth o brofiad mewn prif ddigwyddiadau bocsio a Sarah Warnock, fel Swyddog Gweithredol Cynhyrchu.
Caj Sohal, Pennaeth Chwaraeon Channel 5: “Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda Whisper i atgyfnerthu edrychiad a blas ein darllediadau. Channel 5 yw’r unig rhwydwaith teledu llinol sydd wedi ymroi at y bocsio ac mae yna flwyddyn gyffrous o’n blaenau.”
Pete Thomas, Pennaeth Chwaraeon, Whisper: “Rydyn ni’n falch iawn o gynhyrchu bocsio ar gyfer Channel 5, gan ddod â gornestay byw i gynulleidfa teledu llinol y DU.”
“Ffocws Whisper o’r diwrnod cyntaf oedd i gynhyrchu chwaraeon fel adloniant, syniadaeth ac ymrwymiad a rennir gan Wasserman sy’n dod â gwylwyr newydd i’r gamp tra hefyd yn parchu ei threftadaeth, ac rydym yn gyffrous i weithio gyda nhw i sicrhau bod ein darllediadau mor ddeniadol a chyffrous â’r bocsio ei hun.”
Yn adnabyddus am gyflwyno chwaraeon heb-ei-ail ac adloniant di-sgript, mae Whisper ar hyn o bryd yn cynhyrchu Forumla One, EURO y Menywod, Y Gemau Paralympaidd, Criced Rhyngwladol a Rygbi Rhyngwladol. Mae wedi’i enwi’n Lle Darlledu Gorau i Weithio chwe gwaith, mae hefyd yn bartner cynhyrchu cynnwys ar gyfer UEFA, Wimbledon, World Rugby a’r LTA.