Rydyn ni’n credu mewn creadigrwydd heb derfynau. Waeth beth fo’ch syniad, eich briff, eich breuddwyd, byddwn yn gwneud ein gorau glas i’w wireddu, fel rydyn ni wedi’i wneud gyda brandiau byd-eang blaenllaw fel Red Bull, BOSE, NEOM a Peloton.
Creu
Rydyn ni’n ffurfio partneriaethau
ag asiantaethau a brandiau er
mwyn trawsnewid sut maen
nhw’n creu eu cynnwys a’u
hymgyrchoedd.
Yma ceir
cydweithrediad,
creadigrwydd a
galludi ben draw.
TRWY
GYDWEITHIO UCHELGEISIOL
CYSYLLTIADAU
HEB EU HAIL
Mae rhestr enwogion Whisper yn hirfaith. O Tom Cruise i Tinie Tempah, Ben Stokes i Alex Scott, mae gennym gysylltiadau unigryw â’r sêr. Rydyn ni’n adnabod pobl efallai na fyddech chi’n eu hadnabod… a llawer iawn rydych chi’n eu hadnabod, ond nad ydyn nhw yn eich llyfr ffôn. Rydyn ni hefyd yn gweithio mewn lleoliadau unigryw ledled y byd.
GYDA
THIMAU
PWRPASOL
Rydyn ni’n bwerdy cynhyrchu â thros 200 aelod o staff. Mae gennym ni swyddfeydd, cyfarwyddwyr a rhwydweithiau ledled y byd, a gallwn ni adeiladu a threfnu timau yn unrhyw le ar fyr rybudd.
GYDA
CHYRHAEDDIAD
BYDEANG
Rydyn ni’n rhan o grŵp Sony, sy’n golygu bod gennym fynediad i’w rhwydwaith byd-eang, eu technoleg, eu timau, eu cerddoriaeth a’u henwogion. Rydyn ni hefyd yn gweithio gyda rhai o’r cyfarwyddwyr gorau yn y diwydiant.
EIN CLEIENTIAID:
PARTNERIAID ALLWEDDOL