Gyrfaoedd
Rydyn ni’n gweithio gyda’r goreuon, pwy bynnag ydyn nhw. Rydym yn meithrin ac yn herio.
Dyna pam ein bod ni’n Darlledu Lleoedd Gorau i Weithio 2017, 2018, 2019, 2020 a 2022.
AGORIADAU PRESENNOL
GOLYGYDD CHWARAEON
– WHISPER CYMRU
Mae Whisper yn gwmni cynhyrchu blaenllaw byd-eang, yn arbenigo mewn chwaraeon ac adloniant brand heb ei sgriptio.
Mae ein tîm amrywiol o dros 270 o aelodau staff yn gweithio mewn swyddfeydd ledled y DU a thu hwnt, yn cynhyrchu chwaraeon o’r lefel uchaf fel Formula One, UEFA a’r Paralympics, yn ogystal â chynnwys brand, rhaglenni dogfen amser brig a sioeau cwis adloniant ar gyfer llu o ddarlledwyr.
Yn 2023 enillodd Whisper BAFTA a chafodd ei enwebu ar gyfer EMMY Rhyngwladol.
Mae Sony Pictures Television yn un o gyd-berchnogion y cwmni ac mae wedi ennill gwobr Lle Darlledu Gorau i Weithio ar saith achlysur.
Rydym yn chwilio am olygydd creadigol Adobe Premiere Pro i ymuno â’r tîm chwaraeon yn ein swyddfa yng Nghaerdydd.
Bydd y rôl yn cynnwys gweithio ochr yn ochr â Chynhyrchwyr creadigol ar raglenni ffeithiol, eitemau agoriadol a chlo ar gyfer amrywiaeth o raglenni chwaraeon gan gynnwys rygbi a chwaraeon moduro.
Bydd yr ymgeisydd cywir ar gyfer y rôl yma arddangos talent ac angerdd i olygu cynnwys heb ei ail i gyfyngiadau amser tynn.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus llond lle o syniadau, yn barod i fod yn rhan o’r sgwrs i siapio cyfeiriad cyffredinol creadigol yr adran, ac yn hyderus i gyflwyno steiliau gweledol i gynyrchiadau.
Byddai gwybodaeth frwd ac angerdd am amrywiaeth o chwaraeon yn hynod ddefnyddiol.
Rydym yn agored i glywed gan ymgeiswyr profiadol a’r rhai mewn rolau Golygydd Iau a fyddai’n gweld hwn fel cyfle datblygu.
Mae Whisper yn falch o fod yn gyflogwr cyfle cyfartal ac rydym yn mynd ati i chwilio am ymgeiswyr o gefndiroedd a chymunedau amrywiol.
Prif gyfrifoldebau:
- Golygu arlein ac all-lein ar Adobe Premiere Pro
- Gweithio fel aelod o dîm ar ystod eang o gynnwys gan gynnwys eitemau, hysbysebu a chynnwys ffurf hir
- Graddio a chymysgu sain i safon darlledu
- Pwytho rhaglenni i’w cyflwyno i ddarlledwyr
- Deall y gofynion technegol i fodloni a chynnal safonau QC
- Sicrhau bod yr allbwn yn cydymffurfio â safonau golygyddol, technegol, dyluniad a hygyrchedd Whisper, tra bob amser yn gweithio i bolisi Iechyd a Diogelwch y cwmni
- Bod yn ymwybodol o ddatblygiadau a thueddiadau yn y gofod digidol a gwneud awgrymiadau ar gyfer cynnwys creadigol
Nodwch y gall cyfrifoldebau gael eu diwygio, ychwanegu atynt neu eu dileu i adlewyrchu anghenion newidiol y cynhyrchiad neu’r sefydliad.
Sgiliau a Phrofiad:
- Dealltwriaeth eang o Adobe Premiere Pro a phrofiad o greu eitemau golygyddol cyffrous
- Byddai’r gallu i ddefnyddio After Effects (ar Mac) yn ddefnyddiol
- Yn angerddol dros greadigrwydd a’r gallu i adrodd stori, uchelgais i weithio fel aelod o dîm ac i gynnig syniadau a dyluniadau newydd
- Y gallu a phrofiad amlwg o gynhyrchu eitemau difyr a chreadigol.
- Dealltwriaeth o’r manylebau technegol, y gofynion creadigol a golygyddol ar gyfer cyflwyno allbwn yn uniongyrchol i lwyfannau darlledu a hefyd cyfryngau cymdeithasol· Dealltwriaeth o reoli’r cyfryngau, gofyn am gynnwys a’i baratoi, yn ogystal â manylebau darlledu a chodecs
- Y gallu i ddeall brîff gan y tîm cynhyrchu mewnol a cheleintiaid allanol
- Y gallu i weithio ar eich menter eich hun yn ogystal ag ochr yn ochr â golygyddion, a’r gallu i ddiwygio prosiectau a ddechreuwyd gan eraill
- Hyblygrwydd dyddiau ac oriau gwaith i ddiwallu anghenion ar adegau hollbwysig o’r calendr chwaraeon
- Sawl blwyddyn o brofiad blaenorol yn y diwydiant
- Lefel amlwg o greadigrwydd gyda’r gallu i ddod ag agwedd newydd ffres at greu allbwn sy’n ennyn diddordeb ac sy’n esblygu
Lleoliad:
Y ganolfan ar gyfer y swydd hon yw swyddfeydd Whisper Cymru yng Nghaerdydd
Diwrnodau gaith:
Bydd y rôl hon yn gofyn am rywfaint o hyblygrwydd a gweithio ar y penwythnos.
Bydd disgwyl i chi weithio gyda’r tîm i gynllunio amserlen yn seiliedig ar ofynion cynhyrchu.
Rhoddir diwrnodau lieu ar gyfer unrhyw ddiwrnodau a weithiwyd dros wythnos bum niwrnod.
Mae Whisper yn cynnig yr opsiwn o oriau hyblyg yn amodol ar ofynion cynhyrchu.
Dechrau:
Cyn gynted â phosib – cytundeb 12 mis
Cyflog:
Yn ddibynnol ar brofiad
Dyddiad cau:
Dydd Gwener 29ain Tachwedd 2024
Sut i ymgeisio:
Llwythwch eich CV i’r linc isod a dywedwch, yn eich ffordd eich hun, pam mai chi yw’r ymgeisydd gorau ar gyfer y swydd