Gyrfaoedd

Rydyn ni’n gweithio gyda’r goreuon, pwy bynnag ydyn nhw. Rydym yn meithrin ac yn herio.
Dyna pam ein bod ni’n Darlledu Lleoedd Gorau i Weithio 2017, 2018, 2019, 2020 a 2022.

AGORIADAU PRESENNOL

GOLYGYDD CHWARAEON
– WHISPER CYMRU

Mae Whisper yn gwmni cynhyrchu blaenllaw byd-eang, yn arbenigo mewn chwaraeon ac adloniant brand heb ei sgriptio.

Mae ein tîm amrywiol o dros 270 o aelodau staff yn gweithio mewn swyddfeydd ledled y DU a thu hwnt, yn cynhyrchu chwaraeon o’r lefel uchaf fel Formula One, UEFA a’r Paralympics, yn ogystal â chynnwys brand, rhaglenni dogfen amser brig a sioeau cwis adloniant ar gyfer llu o ddarlledwyr.

Yn 2023 enillodd Whisper BAFTA a chafodd ei enwebu ar gyfer EMMY Rhyngwladol.

Mae Sony Pictures Television yn un o gyd-berchnogion y cwmni ac mae wedi ennill gwobr Lle Darlledu Gorau i Weithio ar saith achlysur.

Rydym yn chwilio am olygydd creadigol Adobe Premiere Pro i ymuno â’r tîm chwaraeon yn ein swyddfa yng Nghaerdydd.

Bydd y rôl yn cynnwys gweithio ochr yn ochr â Chynhyrchwyr creadigol ar raglenni ffeithiol, eitemau agoriadol a chlo ar gyfer amrywiaeth o raglenni chwaraeon gan gynnwys rygbi a chwaraeon moduro.

Bydd yr ymgeisydd cywir ar gyfer y rôl yma arddangos talent ac angerdd i olygu cynnwys heb ei ail i gyfyngiadau amser tynn.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus llond lle o syniadau, yn barod i fod yn rhan o’r sgwrs i siapio cyfeiriad cyffredinol creadigol yr adran, ac yn hyderus i gyflwyno steiliau gweledol i gynyrchiadau.

Byddai gwybodaeth frwd ac angerdd am amrywiaeth o chwaraeon yn hynod ddefnyddiol.

Rydym yn agored i glywed gan ymgeiswyr profiadol a’r rhai mewn rolau Golygydd Iau a fyddai’n gweld hwn fel cyfle datblygu.

Mae Whisper yn falch o fod yn gyflogwr cyfle cyfartal ac rydym yn mynd ati i chwilio am ymgeiswyr o gefndiroedd a chymunedau amrywiol.

Prif gyfrifoldebau:

  • Golygu arlein ac all-lein ar Adobe Premiere Pro
  • Gweithio fel aelod o dîm ar ystod eang o gynnwys gan gynnwys eitemau, hysbysebu a chynnwys ffurf hir
  • Graddio a chymysgu sain i safon darlledu
  • Pwytho rhaglenni i’w cyflwyno i ddarlledwyr
  • Deall y gofynion technegol i fodloni a chynnal safonau QC
  • Sicrhau bod yr allbwn yn cydymffurfio â safonau golygyddol, technegol, dyluniad a hygyrchedd Whisper, tra bob amser yn gweithio i bolisi Iechyd a Diogelwch y cwmni
  • Bod yn ymwybodol o ddatblygiadau a thueddiadau yn y gofod digidol a gwneud awgrymiadau ar gyfer cynnwys creadigol

Nodwch y gall cyfrifoldebau gael eu diwygio, ychwanegu atynt neu eu dileu i adlewyrchu anghenion newidiol y cynhyrchiad neu’r sefydliad.

Sgiliau a Phrofiad: 

  • Dealltwriaeth eang o Adobe Premiere Pro a phrofiad o greu eitemau golygyddol cyffrous
  • Byddai’r gallu i ddefnyddio After Effects (ar Mac) yn ddefnyddiol
  • Yn angerddol dros greadigrwydd a’r gallu i adrodd stori, uchelgais i weithio fel aelod o dîm ac i gynnig syniadau a dyluniadau newydd
  • Y gallu a phrofiad amlwg o gynhyrchu eitemau difyr a chreadigol.
  • Dealltwriaeth o’r manylebau technegol, y gofynion creadigol a golygyddol ar gyfer cyflwyno allbwn yn uniongyrchol i lwyfannau darlledu a hefyd cyfryngau cymdeithasol·      Dealltwriaeth o reoli’r cyfryngau, gofyn am gynnwys a’i baratoi, yn ogystal â manylebau darlledu a chodecs
  • Y gallu i ddeall brîff gan y tîm cynhyrchu mewnol a cheleintiaid allanol
  • Y gallu i weithio ar eich menter eich hun yn ogystal ag ochr yn ochr â golygyddion, a’r gallu i ddiwygio prosiectau a ddechreuwyd gan eraill
  • Hyblygrwydd dyddiau ac oriau gwaith i ddiwallu anghenion ar adegau hollbwysig o’r calendr chwaraeon
  • Sawl blwyddyn o brofiad blaenorol yn y diwydiant
  • Lefel amlwg o greadigrwydd gyda’r gallu i ddod ag agwedd newydd ffres at greu allbwn sy’n ennyn diddordeb ac sy’n esblygu

Lleoliad: 

Y ganolfan ar gyfer y swydd hon yw swyddfeydd Whisper Cymru yng Nghaerdydd

 

Diwrnodau gaith:

Bydd y rôl hon yn gofyn am rywfaint o hyblygrwydd a gweithio ar y penwythnos.

Bydd disgwyl i chi weithio gyda’r tîm i gynllunio amserlen yn seiliedig ar ofynion cynhyrchu.

Rhoddir diwrnodau lieu ar gyfer unrhyw ddiwrnodau a weithiwyd dros wythnos bum niwrnod.

Mae Whisper yn cynnig yr opsiwn o oriau hyblyg yn amodol ar ofynion cynhyrchu.

Dechrau:

Cyn gynted â phosib – cytundeb 12 mis

Cyflog:

Yn ddibynnol ar brofiad

Dyddiad cau:

Dydd Gwener 29ain Tachwedd 2024

Sut i ymgeisio:

Llwythwch eich CV i’r linc isod a dywedwch, yn eich ffordd eich hun, pam mai chi yw’r ymgeisydd gorau ar gyfer y swydd

https://thewhispergroup.bamboohr.com/careers/161

By using this website, you agree to our use of cookies. We use cookies to provide you with a great experience and to help our website run effectively.