{"id":5461,"date":"2023-10-30T16:32:42","date_gmt":"2023-10-30T16:32:42","guid":{"rendered":"https:\/\/whisper.tv\/?post_type=news&#038;p=5461"},"modified":"2023-10-30T16:34:06","modified_gmt":"2023-10-30T16:34:06","slug":"s4c-yn-comisiynu-or-stryd-ir-sgrym-gan-whisper-cymru-a-fydd-yn-arddangos-fformat-rygbi-newydd-world-rugby","status":"publish","type":"news","link":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/article\/s4c-yn-comisiynu-or-stryd-ir-sgrym-gan-whisper-cymru-a-fydd-yn-arddangos-fformat-rygbi-newydd-world-rugby\/","title":{"rendered":"S4C YN COMISIYNU \u2018O\u2019R STRYD I\u2019R SGRYM\u2019 GAN WHISPER CYMRU, A FYDD YN ARDDANGOS FFORMAT RYGBI NEWYDD WORLD RUGBY"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img decoding=\"async\" width=\"1920\" height=\"1080\" src=\"https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/10\/WC_FX6-A1425_11182712.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-5455\" srcset=\"https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/10\/WC_FX6-A1425_11182712.jpg 1920w, https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/10\/WC_FX6-A1425_11182712-300x169.jpg 300w, https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/10\/WC_FX6-A1425_11182712-600x338.jpg 600w, https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/10\/WC_FX6-A1425_11182712-900x506.jpg 900w, https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/10\/WC_FX6-A1425_11182712-1200x675.jpg 1200w, https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/10\/WC_FX6-A1425_11182712-1800x1013.jpg 1800w\" sizes=\"(max-width: 1920px) 100vw, 1920px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Mae Whisper Cymru wedi cyhoeddi heddiw bod S4C wedi comisiynu cyfres chwe-rhan newydd, O\u2019r Stryd i\u2019r Sgrym, a fydd yn cynnwys chwaraewyr rhyngwladol presennol a blaenorol Cymru. Fe fydd y gyfres yn dilyn hynt a helynt creu t\u00eem rygbi newydd sbon gydag aelodau o\u2019r cyhoedd, sydd heb gael y cyfleoedd gorau mewn bywyd. Hyd yn hyn!<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd y gyfres yn dangos rygbi T1, y fformat digyswllt cwbl newydd gan World Rugby, a lansiwyd ar 17 Hydref ym Mharis.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd y chwe rhaglen yn dilyn gr\u0175p o chwaraewyr di-brofiad, o gefndiroedd amrywiol, wrth iddynt ddysgu sut i chwarae\u2019r g\u00eam yng ngofal gr\u0175p o gyn chwaraewyr rhyngwladol. Bydd disgwyl i\u2019r chwaraewyr fynd trwy sesiynau ymarfer anodd a darganfod sut i weithio gyda\u2019i gilydd fel t\u00eem.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn arwain y chwaraewyr newydd y bydd cyn gapten Cymru, Scott Quinnell, gyda chymorth cyn-chwaraewyr rhyngwladol adnabyddus eraill, mewn partneriaeth ag Undeb Rygbi Cymru a\u2019r elusen School of Hard Knocks.<\/p>\n\n\n\n<p>Penllanw\u2019r gyfres bydd g\u00eam gystadleuol o rygbi digyswllt T1 yn erbyn clwb sefydledig yn Lloegr yn ystod pencampwriaeth y 6 Gwlad 2024. A fydd y t\u00eem newydd yn goresgyn yr anawsterau a, thrwy werthoedd rygbi, yn creu sylfaen a fydd yn newid eu bywydau am byth?<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd y gyfres yn cael ei ffilmio yn y Trallwng a\u2019r cyffiniau a\u2019r bwriad yw ei darlledu o amgylch Chwe Gwlad y Dynion yn 2024.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Whisper Cymru yn cynnal diwrnod agored i\u2019r cyhoedd yng Nghlwb Rygbi\u2019r Trallwng ddydd Mawrth 31 Hydref 3PM ar gyfer unrhyw un sydd \u00e2 diddordeb mewn cymryd rhan yn y rhaglen ddogfen gyffrous hon.<\/p>\n\n\n\n<p>Dywedodd <strong>Carys Owens, Rheolwr Gyfarwyddwr Whisper Cymru:<\/strong> \u201cMae cymaint o elfennau cyffrous i\u2019r prosiect hwn. Dyma un o\u2019r troeon cyntaf y bydd T1, fformat newydd World Rugby, yn cael ei harddangos ac mae\u2019n teimlo\u2019n arbennig iawn ar gyfer prosiect mor wych. Rydym wedi gweithio gydag Undeb Rygbi Cymru ers blynyddoedd lawer ac mae\u2019n wych arddangos gwerthoedd rygbi fel hyn a dangos sut y gall y gamp helpu cymdeithas. Byddwn yn tynnu ar ein profiad cryf o gynhyrchu rygbi a\u2019n dull uchelgeisiol o gyflwyno cynnwys.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cMae S4C yn falch iawn o fod ymhlith y cyntaf i roi llwyfan i\u2019r fformat newydd cyffrous yma o rygbi a hynny mewn cyfres afaelgar fydd yn dangos p\u0175er chwaraeon i drawsnewid bywydau pobl.\u201d <strong>Iwan England \u2013 Pennaeth Di-Sgript S4C<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Cynhyrchiad gan Whisper Cymru ar gyfer S4C yw O\u2019r Stryd i\u2019r Sgrym. Mae\u2019r gyfres wedi ei chomisiynu gan Iwan England. Y Cynhyrchwyr Gweithredol ar gyfer Whisper Cymru yw Carys Owens a Si\u00f4n Jones, ynghyd \u00e2\u2019r Cynhyrchydd\/Cyfarwyddwr Lynne Thomas-Davies.<\/p>\n\n\n\n<p>Whisper Cymru yw swyddfa rhanbarthol y cwmni cynhyrchu rhyngwladol Whisper. Dan arweiniad Carys Owens, mae\u2019r t\u00eem 20+ wedi cyflwyno rhaglenni dogfen arloesol, gan gynnwys y rhaglen ddogfen Two Sides a enwebwyd am Emmy Rhyngwladol, yn ogystal \u00e2 Return to Rockfield gydag Oasis a Gamechangers gyda\u2019r BBC. Mae hefyd yn cynhyrchu\u2019r Chwe Gwlad y Merched (BBC), Cwpan Rygbi\u2019r Byd (S4C), cynnwys ar gyfer Undeb Rygbi Cymru, Llewod Prydain ac Iwerddon a llawer mwy. Wedi\u2019i leoli yng Nghaerdydd, mae wedi ennill Lle Darlledu Gorau i Weithio chwe gwaith, ac yn enillydd Busnes y Flwyddyn Caerdydd yng Ngwobrau Busnes Caerdydd 2022.<\/p>\n","protected":false},"featured_media":5451,"template":"","class_list":["post-5461","news","type-news","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"acf":[],"aioseo_notices":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/5461","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news"}],"about":[{"href":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/news"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/5451"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5461"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}