{"id":2175,"date":"2023-02-14T02:53:00","date_gmt":"2023-02-14T02:53:00","guid":{"rendered":"https:\/\/whisper-cymru.onyx-sites.io\/article\/the-lta-retains-whisper-and-little-dot-sport-as-content-production-partners\/"},"modified":"2023-03-24T12:11:43","modified_gmt":"2023-03-24T12:11:43","slug":"the-lta-retains-whisper-and-little-dot-sport-as-content-production-partners","status":"publish","type":"news","link":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/article\/the-lta-retains-whisper-and-little-dot-sport-as-content-production-partners\/","title":{"rendered":"LTA YN CADW WHISPER A LITTLE DOT SPORT FEL PARTNERIAID CYNHYRCHU CYNNWYS"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img decoding=\"async\" width=\"1920\" height=\"1080\" src=\"https:\/\/whisper-cymru.onyx-sites.io\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/Billy-Monger-LTA-whisper.jpeg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2149\" srcset=\"https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/Billy-Monger-LTA-whisper.jpeg 1920w, https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/Billy-Monger-LTA-whisper-300x169.jpeg 300w, https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/Billy-Monger-LTA-whisper-600x338.jpeg 600w, https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/Billy-Monger-LTA-whisper-900x506.jpeg 900w, https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/Billy-Monger-LTA-whisper-1200x675.jpeg 1200w, https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/Billy-Monger-LTA-whisper-1800x1013.jpeg 1800w\" sizes=\"(max-width: 1920px) 100vw, 1920px\" \/><\/figure>\n<p>Yn dilyn partneriaeth lwyddiannus yn 2022, mae&#8217;r LTA wedi adnewyddu ei Bartneriaeth Cynhyrchu gyda Whisper a Little Dot Sport ar gyfer 2023, wrth iddyn nhw barhau i ganolbwyntio ar gyflwyno tennis i gynulleidfaoedd newydd yn y DU.<\/p>\n\n<p>Unwaith eto, bydd Whisper a Little Dot Sport yn cyfuno eu sgiliau er mwyn cynhyrchu a dosbarthu amrywiaeth o gynnwys trawiadol ar draws llwyfannau digidol yr LTA, gan barhau i adeiladu ar y sylfeini a osodwyd yn 2022. A hwythau eisoes wedi cynyddu\u2019r achosion o ryngweithio 50%, wedi cynyddu nifer y dilynwyr 30%, a chynyddu ffigyrau gwylio fideos 11%, fe fyddan nhw nawr yn canolbwyntio ar greu cynnwys pellach a fydd yn helpu i wella ymgysylltiad pobl \u00e2 thennis ac yn newid sut mae pobl yn meddwl am y gamp er mwyn annog affinedd ymysg cefnogwyr.<\/p>\n\n<p>Roedd y cynnwys a gyflwynwyd yn 2022 yn cynnwys cyfresi wedi&#8217;u targedu ar gyfer llwyfannau, cynulleidfaoedd a phartneriaid gwahanol; megis y sioe cipolwg dadansoddol, &#8216;Inspired By&#8217;, ar gyfer aelodau Advantage LTA. Yn ogystal \u00e2 hyn, roedd cynnwys adloniant a oedd wedi&#8217;i anelu at gynulleidfaoedd ehangach, fel y digrifwr Joel Dommett yn herio Andy Murray, a s\u00ear fel Jill Scott, Ellen White a Sam Quek yn rhoi cynnig ar Padel, y gamp sy&#8217;n tyfu ar y raddfa gyflymaf ym Mhrydain. Hefyd, cynhyrchodd Whisper a\u2019r LTA gyfres ble roedd y gyrrwr rasio Billy Monger yn dysgu am fyd tennis cadair olwyn \u2013 o Bencampwyr y gamp lawn i\u2019r rhai sydd ond newydd ddechrau.<\/p>\n\n<p>Yn 2023, bydd Whisper yn creu sawl edefyn cynnwys gwahanol gyda&#8217;r LTA er mwyn helpu i sbarduno twf pellach ac i ddenu cynulleidfaoedd newydd. Bydd hyn yn cynnwys cyfres episodig sy\u2019n dilyn y genhedlaeth nesaf o s\u00ear tennis Prydeinig, cynnwys difyr sy\u2019n hyrwyddo tennis ar lawr gwlad ac sy\u2019n tynnu sylw at barciau ac at gyfranogiad, heriau difyr a doniol, a chynnwys newydd i hyrwyddo Padel ymhellach.<\/p>\n\n<p>Little Dot Sport, sef adran chwaraeon arbenigol yr asiantaeth cynnwys digidol a\u2019r rhwydwaith cyfryngau arobryn Little Dot Studios, fydd yn gyfrifol am gefnogi rheolaeth sianel ac am ddosbarthu cynnwys yr LTA, gan gynnwys darllediadau o bencampwriaethau yn ystod tymor cwrt glaswellt Prydain, a hybu ymgysylltiad ag athletwyr blaenllaw ar sianeli&#8217;r LTA, megis Emma Raducanu, Alfie Hewitt a Cameron Norrie.<\/p>\n\n<p>Yn ddiweddar, cyhoeddodd LTA ffigurau cyfranogiad ar gyfer 2022 a oedd yn dangos llwyddiant parhaus o ran denu mwy o bobl i chwarae tennis ac i chwarae yn amlach; gyda thwf i\u2019w weld ar draws pob demograffeg, rhanbarth a chenedl ym Mhrydain, yn enwedig ymhlith pobl 16-34 oed a&#8217;r rhai o gefndiroedd economaidd cymdeithasol is. Mae&#8217;r ymchwydd hwn mewn cyfranogiad wedi\u2019i ategu gan dwf digidol sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, a\u2019r gobaith yw y bydd y bartneriaeth barhaus hon gyda Little Dot Sport a Whisper yn parhau \u00e2 hyn ac yn denu hyd yn oed mwy o bobl i chwarae&#8217;r gamp.<\/p>\n\n<p><strong>Dywedodd Richard Daish, Cyfarwyddwr Marchnata a Masnachol, LTA, <\/strong>: &#8220;Rydyn ni\u2019n edrych ymlaen at adnewyddu ein partneriaeth gyda Whisper a Little Dot, ac at barhau i gyflwyno cynnwys o&#8217;r radd flaenaf yn ystod ein calendr blynyddol, gan wella ymwybyddiaeth pobl o\u2019r g\u00eam ac annog rhagor o bobl i ymgysylltu \u00e2 thennis a Padel, fel cefnogwyr ac fel chwaraewyr.&#8221;<\/p>\n\n<p><strong>Dywedodd Robbie Spargo, Cyfarwyddwr Little Dot Sport,<\/strong>\u00a0: &#8220;Mae gweithio mewn partneriaeth \u00e2 LTA a Whisper wedi bod yn broses wirioneddol gydweithredol. Mae wedi gosod y sylfaen ar gyfer ein gwaith a\u2019r ffordd y byddwn yn parhau i wella ymwybyddiaeth a chreu cynulleidfa ffyddlon i&#8217;r LTA. Gyda&#8217;r cynnwys cryf y mae Whisper yn ei gynhyrchu ynghyd \u00e2\u2019n strategaeth rheoli a dosbarthu arbennig ni, rydyn ni\u2019n credu y byddwn ni\u2019n parhau i arallgyfeirio ac ehangu sylfaen dilynwyr LTA, yn unol \u00e2&#8217;u gweledigaeth o wneud tennis yn hygyrch i bawb.<\/p>\n\n<p><strong>Dywedodd Bethan Evans, Cyfarwyddwr Cynhyrchu<\/strong>,\u00a0<strong>Whisper\u00a0<\/strong>: &#8220;Gwych yw gweithio mewn partneriaeth \u00e2 Little Dot Studios eto, gan ddod \u00e2&#8217;n sgiliau ynghyd i gyflawni ar ran yr LTA.<\/p>\n\n<p>Gyda Little Dot Sport byddwn yn defnyddio ein cryfderau wrth gynhyrchu cynnwys episodig ar-lein ar gyfer yr LTA ac yn defnyddio ein sgiliau adrodd straeon i gynhyrchu cynnwys difyr sy\u2019n arddangos ein cred mai Adloniant Yw Popeth.&#8221;<\/p>\n","protected":false},"featured_media":2151,"template":"","class_list":["post-2175","news","type-news","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"acf":[],"aioseo_notices":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/2175","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news"}],"about":[{"href":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/news"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2151"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2175"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}