{"id":2173,"date":"2023-02-13T09:00:00","date_gmt":"2023-02-13T09:00:00","guid":{"rendered":"https:\/\/whisper-cymru.onyx-sites.io\/article\/whisper-appointed-as-host-broadcaster-for-paul-v-fury-fight\/"},"modified":"2023-03-24T12:11:38","modified_gmt":"2023-03-24T12:11:38","slug":"whisper-appointed-as-host-broadcaster-for-paul-v-fury-fight","status":"publish","type":"news","link":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/article\/whisper-appointed-as-host-broadcaster-for-paul-v-fury-fight\/","title":{"rendered":"PENODI WHISPER YN DDARLLEDWR AR GYFER GORNEST PAUL V FURY"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"https:\/\/whisper-cymru.onyx-sites.io\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/Fury-Paul-Fight-Visual.jpeg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2161\" srcset=\"https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/Fury-Paul-Fight-Visual.jpeg 1024w, https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/Fury-Paul-Fight-Visual-300x169.jpeg 300w, https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/Fury-Paul-Fight-Visual-600x338.jpeg 600w, https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/Fury-Paul-Fight-Visual-900x506.jpeg 900w\" sizes=\"(max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n<p>Mae Skill Challenge Entertainment wedi penodi Whisper i ddarparu\u2019r Darllediad Ffrwd Byd o ornest hirddisgwyledig Jake Paul v Tommy Fury yn Diriyah ddydd Sul 26 Chwefror.<\/p>\n\n<p>Y llynedd, Whisper wnaeth ddapraru\u2019r Darllediad Ffrwd Byd o ail ornest Oleksandr Usyk v Anthony Joshua II, Rage on the Red Sea, a ddarlledwyd mewn dros 180 o wledydd.<\/p>\n\n<p>Dechreuodd Jake Paul focsio yn 2018, ac roedd yn cystadlu\u2019n broffesiynol ddwy flynedd yn ddiweddarach. Ers hynny, mae\u2019r Pro Boxing Association wedi ei osod ar y brig o ran bocswyr-ddylanwadwyr yn dilyn cyfres o ornesdau mawr a\u2019i record o 6-0. Dyw Fury heb golli yn ei yrfa bocsio proffesiynol hyd yma ychwaith. Ac yntau\u2019n hanner brawd i bencampwr pwysau trwm y byd, Tyson Fury, fe wnaeth Tommy drechu Jevgenijs Andrejevs yn ei ornesd broffesiynol gyntaf pan oedd yn 19 oed. Ei record yw 8-0.<\/p>\n\n<p>Ar gyfer y digwyddiad hwn, bydd Whisper yn cyflwyno darllediad uchelgeisiol a difyr i gynulleidfaoedd ym mhob cwr o\u2019r byd, gyda phartneriaid darlledu rhyngwladol sy\u2019n cynnwys BT Sport Box Office yn y DU ac ESPN + PPV yn yr Unol Daleithiau.<\/p>\n\n<p>Bydd Chapter 3 Graphics yn cyfoethogi\u2019r digwyddiad gyda\u2019u heffeithiau clyweledol trawiadol.<\/p>\n\n<p>Mae t\u00eem cynhyrchu Whisper yn cynnwys Pennaeth Chwaraeon Whisper, Pete Thomas, sydd wedi gweithio ar ornestau pencampwr y byd gydag Oleksandr Usyk, Joe Calzaghe, Amir Khan a Carl Froch. Yn ymuno ag ef mae&#8217;r Cynhyrchydd Gweithredol, John Curtis, sydd wedi treulio\u2019r 15 mlynedd ddiwethaf ym myd bocsio yn gweithio ar ddigwyddiadau talu-i-wylio, a Bethan Evans, Cyfarwyddwr Cynhyrchu Whisper. Bydd y t\u00eem cyflawni yn cynnwys aelodau o&#8217;r DU, yn ogystal \u00e2 chriw lleol.<\/p>\n\n<p><strong>Sunil Patel, Prif Swyddog Gweithredol Whisper<\/strong>:\u00a0<em>&#8220;Dyma frwydr hirddisgwyledig, ac rydyn ni\u2019n falch iawn o fod wedi cael ein dewis gan Skill Challenge Entertainment i gyflwyno&#8217;r Darllediad Ffrwd Byd, a hynny ar \u00f4l i ni gyflwyno Usyk v Joshua yn llwyddiannus y llynedd. Mae&#8217;r ddau ymladdwr yma yn dalentau ifanc cyffrous, ac rydyn ni\u2019n edrych ymlaen at gyfleu angerdd ac emosiwn y digwyddiad a chaniat\u00e1u i wylwyr deimlo&#8217;n rhan ohono.&#8221;<\/em>\u00a0<\/p>\n\n<p>A hwythau\u2019n adnabyddus am ddarparu rhaglenni chwaraeon ac adloniant heb ei sgriptio, mae Whisper ar hyn o bryd yn cynhyrchu rhaglenni Fformiwla Un, EURO 2022 y Merched, Y Gemau Paralympaidd, Criced Rhyngwladol, Rygbi Rhyngwladol a llawer mwy. Mae eu darllediadau\u2019n cynnwys Bellator, Cwpan y Byd Rygbi\u2019r Gynghrair, New Zealand Cricket, Rygbi Merched a Ph\u00eal-droed Merched.<\/p>\n","protected":false},"featured_media":2163,"template":"","class_list":["post-2173","news","type-news","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"acf":[],"aioseo_notices":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/2173","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news"}],"about":[{"href":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/news"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2163"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2173"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}