{"id":2061,"date":"2020-02-18T12:19:00","date_gmt":"2020-02-18T12:19:00","guid":{"rendered":"http:\/\/whisper-tv.local\/article\/mae-sony-pictures-television-yn-buddsoddi-mewn-whisper\/"},"modified":"2023-03-24T12:10:22","modified_gmt":"2023-03-24T12:10:22","slug":"mae-sony-pictures-television-yn-buddsoddi-mewn-whisper","status":"publish","type":"news","link":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/article\/mae-sony-pictures-television-yn-buddsoddi-mewn-whisper\/","title":{"rendered":"Sony Pictures Television yn Buddsoddi yn Whisper"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img decoding=\"async\" width=\"2453\" height=\"1472\" src=\"https:\/\/whisper-cymru.onyx-sites.io\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/WhisperCo-Founders.jpg\" alt=\"Cyd-sylfaenwyr Whisper: David, Sunil a Jake\" class=\"wp-image-1132\" srcset=\"https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/WhisperCo-Founders.jpg 2453w, https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/WhisperCo-Founders-300x180.jpg 300w, https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/WhisperCo-Founders-600x360.jpg 600w, https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/WhisperCo-Founders-900x540.jpg 900w, https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/WhisperCo-Founders-1200x720.jpg 1200w, https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/WhisperCo-Founders-1800x1080.jpg 1800w\" sizes=\"(max-width: 2453px) 100vw, 2453px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Cyd-sylfaenwyr Whisper: David, Sunil a Jake<\/figcaption><\/figure>\n<p>Mae Sony Pictures Television (&#8220;SPT&#8221;) wedi buddsoddi yn Gr\u0175p Whisper, gr\u0175p sy&#8217;n cynnwys Whisper, cwmni cynhyrchu chwaraeon byw a chynyrchiadau heb eu sgriptio, Chapter 3 Graphics ac East Media.<\/p>\n\n<p>Sefydlwyd Whisper gan eu Prif Swyddog Gweithredol a\u2019r enillydd Bafta, Sunil Patel, y darlledwr Jake Humphrey a\u2019r cyn-yrrwr F1 a&#8217;r sylwebydd David Coulthard. Maen nhw\u2019n cynhyrchu llu o sioeau adloniant chwaraeon uchelgeisiol, gan gynnwys darllediadau o gemau NFL, y Gemau Paralympaidd, Fformiwla Un, SailGP, Women\u2019s Super League, Criced Rhyngwladol a\u2019r W Series. Yn ddiweddar, maen nhw wedi llwyddo i gadw eu cytundeb Fformiwla Un \u00e2 Channel 4, ac mae ganddyn nhw nifer o gynyrchiadau ychwanegol ar y gweill yn 2020, sydd eto i\u2019w cyhoeddi.<\/p>\n\n<p>Mae Whisper yn adnabyddus am eu gallu i asio adloniant gyda sylwebaeth olygyddol ac arbenigol ar chwaraeon. Maen nhw bellach yn un o enwau blaenllaw&#8217;r byd cynhyrchu chwaraeon, ac wedi llwyddo i newid tirwedd y byd chwaraeon ac adloniant digwyddiadau byw yn y broses. Mae&#8217;r buddsoddiad hwn yn cyd-fynd \u00e2 strategaeth ehangach SPT o arallgyfeirio portffolio cynhyrchu&#8217;r gr\u0175p, sydd wedi cynnwys lansio label creadigol sydd \u00e2 ffocws ar ddiwylliant poblogaidd yn 2018, Human Media, ac ehangu ym maes rhaglenni plant trwy gaffael Silvergate Media ym mis Rhagfyr 2019.<\/p>\n\n<p>&#8220;Mae hyn yn newyddion mawr i Whisper&#8221; meddai Sunil Patel, Cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Whisper. &#8220;Rydyn ni\u2019n credu mai Adloniant yw Popeth, a Sony Pictures Television yw un o enwau mwyaf y byd adloniant.<\/p>\n\n<p>&#8220;Chwaraeon yw craidd ein gwaith ni, a byddwn ni\u2019n parhau i greu rhaglenni chwaraeon y gallwch chi ymgolli ynddyn nhw, ond mae gennym uchelgeisiau eraill hefyd, a gall y cam hwn ein helpu i\u2019w gwireddu. Rydyn ni\u2019n awyddus i dyfu&#8217;n rhyngwladol ac i ddatblygu fformatau a all helpu i adeiladu catalog Eiddo Deallusol cyffrous.<\/p>\n\n<p>&#8220;Rydyn ni\u2019n ddiolchgar iawn am gefnogaeth Wayne Garvie a&#8217;i d\u00eem yn SPT. Rydyn ni\u2019n edrych ymlaen at weithio gyda&#8217;n gilydd er mwyn ehangu cyrhaeddiad Whisper ac i archwilio cyfleoedd i ddatblygu syniadau newydd o amgylch eu hasedau presennol.&#8221;<\/p>\n\n<p>Dywedodd Wayne Garvie, Llywydd, Cynhyrchu Rhyngwladol, Sony Pictures Television, &#8220;Mae Whisper bellach yn un o\u2019r enwau a glywir amlaf pan fo cwmn\u00efau cynhyrchu\u2019r DU yn cael eu trafod. Maen nhw wedi sefydlu eu hunain yn gyflym iawn fel arweinwyr arloesol ym maes cynnwys chwaraeon. Rydyn ni wrth ein boddau ein bod ni\u2019n ymuno \u00e2 Sunil, David, Jake a&#8217;r t\u00eem er mwyn arwain Whisper i&#8217;r lefel nesaf.&#8221;<\/p>\n\n<p>Ychwanegodd y cyd-sylfaenydd David Coulthard, &#8220;Mae taith y cwmni ers ei sefydlu yn 2010 wedi bod yn rhyfeddol, ac mae&#8217;r cytundeb sylweddol hwn yn nodi pennod newydd i Whisper wrth i ni barhau i ehangu. Gall y cyfoeth o brofiad ac arbenigedd sydd gan Sony Pictures Television ein helpu&#8217;n uniongyrchol i fentro i feysydd newydd, a hynny gan barhau \u00e2&#8217;n darllediadau chwaraeon arobryn, sef yr hyn a arweiniodd at y cytundeb hwn yn y lle cyntaf.\u201d<\/p>\n\n<p>Mae&#8217;r cytundeb yn golygu na fydd Cronfa Indie Growth Channel 4 yn ymwneud \u00e2 Whisper bellach. Yn 2015, prynwyd cyfran leiafrifol o\u2019r cwmni gan y Gronfa, rhywbeth a roddodd sbardun angenrheidiol i\u2019r cwmni.<\/p>\n\n<p>Dywedodd Sunil: &#8220;Fydden ni byth lle&#8217;r ydyn ni heddiw oni bai am ymddiriedaeth a ffydd Channel 4 ynddom ni. Maen nhw wedi bod yn bartner ffantastig ac rydyn ni\u2019n ddiolchgar am bopeth maen nhw wedi\u2019i wneud dros y pedair blynedd a hanner diwethaf.&#8221;<\/p>\n\n<p>Lansiwyd Cronfa Indie Growth Fund gan Channel 4 yn 2014 er mwyn cefnogi sector creadigol y DU trwy gymryd cyfrannau lleiafrifol mewn busnesau bach a chanolig a\u2019u helpu i gyrraedd y cam nesaf. Fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus dielw, mae&#8217;r holl elw o fentrau&#8217;r Gronfa yn cael ei ddefnyddio i ariannu&#8217;r gwaith o gyflawni dibenion darlledu gwasanaethau cyhoeddus Channel 4.<\/p>\n\n<p>Dywedodd Alex Mahon, Prif Weithredwr Channel 4: &#8220;Ers ymuno \u00e2 theulu Cronfa Indie Growth yn 2015, mae Whisper wedi mynd o nerth i nerth &#8211; gan bontio i faes cynhyrchu teledu yn llwyddiannus a chan adeiladu t\u00eem hynod dalentog. Rydyn ni wedi mwynhau gweithio gyda Sunil, David a Jake ac rydyn ni\u2019n dymuno pob llwyddiant iddyn nhw yn y dyfodol ac yng ngham nesaf eu datblygiad gyda Sony.&#8221;<\/p>\n\n<p>Imagine Capiral a weithredodd ar ran Gr\u0175p Whisper yn ystod y trafodiad.<\/p>\n\n<p>Yngl\u0177n \u00e2 Sony Pictures Television<\/p>\n\n<p>Mae Sony Pictures Television (&#8220;SPT&#8221;) yn un o brif ddarparwyr cynnwys y diwydiant teledu, gan gynhyrchu, dosbarthu a chario rhaglenni ledled y byd, ym mhob genre ac ar gyfer pob llwyfan. Yn ogystal \u00e2 rheoli un o lyfrgelloedd mwyaf y diwydiant o ran ffilmiau, sioeau teledu a fformatau arobryn, mae SPT hefyd yn gartref i fusnes cynnwys byd-eang ffyniannus, gan weithredu 24 o gwmn\u00efau cynhyrchu mewn 12 gwlad, naill ai trwy gyd-fenter neu berchnogaeth lwyr, yn ogystal \u00e2 sianeli llinellol a digidol ledled y byd. Un o gwmn\u00efau Sony Pictures Entertainment yw SPT.<\/p>\n","protected":false},"featured_media":2062,"template":"","class_list":["post-2061","news","type-news","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"acf":[],"aioseo_notices":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/2061","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news"}],"about":[{"href":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/news"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2062"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2061"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}