{"id":2059,"date":"2020-06-06T12:48:00","date_gmt":"2020-06-06T12:48:00","guid":{"rendered":"http:\/\/whisper-tv.local\/article\/whisper-yn-mynd-ir-afael-o-ran-criced-yn-ennill-uchafbwyntiaur-bbc-ar-ecb\/"},"modified":"2023-03-24T12:10:16","modified_gmt":"2023-03-24T12:10:16","slug":"whisper-yn-mynd-ir-afael-o-ran-criced-yn-ennill-uchafbwyntiaur-bbc-ar-ecb","status":"publish","type":"news","link":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/article\/whisper-yn-mynd-ir-afael-o-ran-criced-yn-ennill-uchafbwyntiaur-bbc-ar-ecb\/","title":{"rendered":"WHISPER YN EHANGU EU DARLLEDIADAU CRICED TRWY ENNILL CYTUNDEBAU UCHAFBWYNTIAU&#8217;R BBC AC ECB"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img decoding=\"async\" width=\"1920\" height=\"1391\" src=\"https:\/\/whisper-cymru.onyx-sites.io\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/GettyImages-1174486638.jpeg\" alt=\"\" class=\"wp-image-1143\" srcset=\"https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/GettyImages-1174486638.jpeg 1920w, https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/GettyImages-1174486638-300x217.jpeg 300w, https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/GettyImages-1174486638-600x435.jpeg 600w, https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/GettyImages-1174486638-900x652.jpeg 900w, https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/GettyImages-1174486638-1200x869.jpeg 1200w, https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/GettyImages-1174486638-1800x1304.jpeg 1800w\" sizes=\"(max-width: 1920px) 100vw, 1920px\" \/><\/figure>\n<p>Cadarnhaodd Whisper heddiw eu bod ar fin dechrau ar ddau gontract criced newydd cyffrous, un gyda&#8217;r BBC a\u2019r llall gyda Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB).<\/p>\n\n<p>Bydd y cytundeb gyda&#8217;r BBC yn golygu mai Whisper fydd yn cynhyrchu uchafbwyntiau criced oriau brig y darlledwr pan fo\u2019r gamp yn dychwelyd i\u2019r BBC ddydd Mercher 8 Gorffennaf am y tro cyntaf ers degawd. Mae&#8217;r cytundeb sawl blwyddyn yn cynnwys cynhyrchu uchafbwyntiau teledu ar gyfer gemau prawf domestig, gemau rhygnwladol undydd (ODI) a gemau T20Is o haf 2020.<\/p>\n\n<p>Yn ogystal \u00e2 hyn, bydd Whisper hefyd yn cynhyrchu uchafbwyntiau a chlipiau ar-lein ar wah\u00e2n ar gyfer Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB) trwy gydol 2020. Mae hyn yn cynnwys yr holl Brofion, gemau ODI a T20Is ar gyfer timau rhyngwladol y dynion a\u2019r merched.<\/p>\n\n<p>Bydd t\u00eem cynhyrchu criced Whisper yn cael ei arwain gan Rob Williams, sydd eisoes wedi cynhyrchu sawl pencampwriaeth y Cyngor Criced Rhyngwladol (ICC), gan gynnwys rownd derfynol Cwpan y Byd y llynedd yn Lord&#8217;s, a hefyd yn cynnwys Mark Cole a Sunil Patel, a oedd yn rhan o ddarllediadau criced y BBC rhwng 1999 a 2009. Mae Mark wedi gweithio ar sawl Cwpan Criced y Byd, ar Gyfres y Lludw, a Phencampwriaethau Cwpan y Byd T20 ar gyfer y BBC, yn ogystal \u00e2 gemau prawf byw a gemau ODI ar gyfer Sky Sports.<\/p>\n\n<p>Byddant yn cydweithio \u00e2 swyddog gweithredol cynyrchiadau, Sarah Warnock, a arferai weithio ar ddigwyddiadau mawr yr ICC, a&#8217;r uwch swyddog gweithredol cynhyrchu Anne Somerset, tra bydd y strategaeth ddigidol ac aml-lwyfan yn cael ei rheoli gan Chris Hurst, sydd \u00e2 thros 15 mlynedd o brofiad ac sydd wedi gweithio i&#8217;r ICC yn y gorffennol.<\/p>\n\n<p>Gyda\u2019r BBC, mae&#8217;r t\u00eem wedi cael y dasg o ehangu cyrhaeddiad ac effaith criced, gan gyflwyno\u2019r gamp i gynulleidfaoedd newydd ac annog mwy o bobl i godi bat a ph\u00eal, a hynny fel rhan o sylw traws-blatfform y BBC.<\/p>\n\n<p><strong>\u00a0<\/strong>Wrth drafod y cytundeb \u00e2\u2019r BBC, dywedodd <strong>Prif Swyddog Gweithredol Whisper, Sunil Patel<\/strong>: &#8220;<em>Mae gweithio ar griced ar  gyfer y BBC yn gyfle anhygoel, ac mae pawb yn Whisper yn edrych ymlaen at gyflawni hyn gyda\u2019r un agwedd uchelgeisiol \u00e2 phob un o\u2019n prosiectau eraill. Mae\u2019r gamp yn cael ail wynt o ran poblogrwydd yn sgil buddugoliaeth ddramatig Lloegr yng Nghwpan Criced y Byd y llynedd, a gwych yw gweld y dylanwad cadarnhaol y gall chwaraeon ei gael. Mae llawer o d\u00eem Whisper yn gefnogwyr criced brwd, ac yn llawn syniadau o ran sut allwn ni roi sylw i\u2019r gamp a denu cynulleidfaoedd newydd gyda\u2019n prosiectau criced newydd <\/em>.&#8221;<\/p>\n\n<p>O ran eu gwaith \u00e2 Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB), mae gan Whisper brofiad o ddefnyddio&#8217;r cyfryngau cymdeithasol i ehangu cynulleidfaoedd chwaraeon eraill, fel y gwnaethant \u00e2\u2019r NFL (ar gyfer y BBC), Fformiwla 1 (ar gyfer Channel 4) a&#8217;r Women&#8217;s Super League (ar gyfer Cymdeithas B\u00eal-droed Lloegr), ac mae\u2019r sioe ddigidol ddyddiol a gynhyrchwyd ganddynt gyda Chymdeithas B\u00eal-droed Lloegr yn ystod Cwpan y Byd Merched y llynedd wedi cael ei gwylio bron i 10 miliwn o weithiau.<\/p>\n\n<p><strong>Dywedodd Uwch Reolwr Creadigol ECB Jimmy Lee<\/strong>:<em> &#8220;Rydyn ni&#8217;n edrych ymlaen yn fawr at weithio mewn partneriaeth \u00e2 Whisper, cwmni sydd wedi dod \u00e2 chymaint o egni a dyfeisgarwch gwych i\u2019r diwydiant. Rwy\u2019n edrych ymlaen at gyflwyno\u2019r tymor criced rhyngwladol sydd ar ddod gyda Sunil, Mark a gweddill y t\u00eem, maen nhw\u2019n rhannu ein huchelgais i ddyrchafu\u2019r grefft o adrodd straeon chwaraeon yn y gofod digidol.<\/em>&#8220;<\/p>\n\n<p><em>\u00a0<\/em><strong>Dywedodd Mark Cole, Rheolwr Gyfarwyddwr Whisper <\/strong><strong>:<\/strong> &#8220;<em>Rydyn ni\u2019n falch iawn o gael gweithio gyda&#8217;r ECB. Dyma gyfle arall i arddangos ein dawn dweud digidol. Mae gan ein t\u00eem angerdd enfawr dros griced, a syniadau cryf o ran sut mae modd defnyddio llwyfannau cymdeithasol i ehangu cynulleidfaoedd. Bydd y bartneriaeth yn y dyfodol yn ein galluogi i barhau i gefnogi criced merched ac i apelio at gynulleidfaoedd amrywiol ledled y wlad. Rydyn ni\u2019n edrych ymlaen at weithio gyda&#8217;r ECB a&#8217;r BBC i ddangos bod criced yn g\u00eam i bawb<\/em>.&#8221;<\/p>\n\n<p>A hwythau ar hyn o bryd yn cynhyrchu mwy o uchafbwyntiau\u2019n gyflym ar gyfer teledu daearol nag unrhyw gwmni annibynnol arall, mae Whisper yn ychwanegu criced at bortffolio uchafbwyntiau sy&#8217;n cynnwys Fformiwla 1, Chwe Gwlad y Merched, Women\u2019s Super League, SailGP, W Series a\u2019r NFL.<\/p>\n","protected":false},"featured_media":2060,"template":"","class_list":["post-2059","news","type-news","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"acf":[],"aioseo_notices":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/2059","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news"}],"about":[{"href":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/news"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2060"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2059"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}