{"id":2057,"date":"2020-01-29T12:51:00","date_gmt":"2020-01-29T12:51:00","guid":{"rendered":"http:\/\/whisper-tv.local\/article\/lleoedd-gorau-i-waith-darlledu-sibriwr-2020\/"},"modified":"2023-03-24T12:10:28","modified_gmt":"2023-03-24T12:10:28","slug":"lleoedd-gorau-i-waith-darlledu-sibriwr-2020","status":"publish","type":"news","link":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/article\/lleoedd-gorau-i-waith-darlledu-sibriwr-2020\/","title":{"rendered":"WHISPER WEDI\u2019U CYNNWYS AR RESTR LLEOEDD GORAU I WEITHIO BROADCAST 2020"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img decoding=\"async\" width=\"1920\" height=\"1280\" src=\"https:\/\/whisper-cymru.onyx-sites.io\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/BroadcastBestPlacestoWork.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-1145\" srcset=\"https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/BroadcastBestPlacestoWork.jpg 1920w, https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/BroadcastBestPlacestoWork-300x200.jpg 300w, https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/BroadcastBestPlacestoWork-600x400.jpg 600w, https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/BroadcastBestPlacestoWork-900x600.jpg 900w, https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/BroadcastBestPlacestoWork-1200x800.jpg 1200w, https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/BroadcastBestPlacestoWork-1800x1200.jpg 1800w\" sizes=\"(max-width: 1920px) 100vw, 1920px\" \/><\/figure>\n<p>Mae Whisper wedi\u2019u cynnwys yn rhestr Lleoedd Gorau i Weithio Broadcast 2020 &#8211; y bedwaredd blynedd yn olynol iddyn nhw dderbyn yr anrhydedd.<\/p>\n\n<p>Nod y cynllun hwn gan Broadcast yw adnabod a chydnabod y cyflogwyr gorau ym myd teledu, gan asesu pob agwedd ar gwmn\u00efau, gan gynnwys arweinyddiaeth, cynllunio, diwylliant corfforaethol, amgylchedd gwaith, hyfforddiant a chyflogau.<\/p>\n\n<p>Mae Whisper yn adnabyddus am eu diwylliant gwaith uchelgeisiol, amrywiol a chyfeillgar, a bellach mae ganddyn nhw dros 75 aelod t\u00eem yn gweithio ar draws tair swyddfa yn Llundain, Caerdydd a Maidenhead.<\/p>\n\n<p>Mae\u2019r buddion a gynigir i staff yn cynnwys ffisiotherapi, hyfforddiant personol a sesiynau tylino am ddim, oriau hyblyg, brecwast a byrbrydau am ddim drwy&#8217;r dydd, ystod o ddigwyddiadau cymdeithasol, gweithgareddau chwaraeon wedi&#8217;u hariannu, a gwyliau ychwanegol dros y Nadolig. Hefyd, gellir cael mynediad at hyfforddwr bywyd a gorffen gwaith yn gynharach yn ystod yr haf (os gallwch chi adael Rustie, ci\u2019r swyddfa, hynny yw!). Cafodd y swyddfa yn Llundain ei hehangu yn ddiweddar hefyd, i greu gweithle braf, golau a gl\u00e2n, gydag ardaloedd ar wah\u00e2n i fwyta ac i weithio oddi wrth y ddesg.<\/p>\n\n<p>Dywedodd Sunil Patel, Prif Swyddog Gweithredol Whisper: &#8220;<em>Gwych yw dal ein gafael ar wobr Lleoedd Gorau i Weithio Broadcast, a hynny am y bedwaredd flwyddyn yn olynol. Rydyn ni\u2019n gweithio&#8217;n galed i gynrychioli cymdeithas ar bob lefel, ac mae ein t\u00eem amrywiol yn adlewyrchu&#8217;r byd ehangach ac mae ein ffigyrau yn rhagori ar dargedau&#8217;r diwydiant. Ein pobl yw craidd y cwmni, a nhw sy\u2019n troi ein brwdfrydedd a\u2019n huchelgais yn weithredoedd creadigol. Rydyn ni\u2019n ymdrechu i ddenu ac i gadw&#8217;r person\u00e9l gorau, ac yn ceisio gofalu amdanyn nhw y ffordd orau y gallwn<\/em>.&#8221;<\/p>\n\n<p>Ar hyn o bryd, ffigyrau staffio Whisper yw bod 51% rhwng 20-34 oed, 48% yn fenywod, 15% o gefndir Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, 9% yn anabl a 9% LHDTC+. Mae hefyd yn Bartner i Brifysgol Royal Holloway ac mae&#8217;n cynnig cyfleoedd mentora, hyfforddiant a chyflogaeth i fyfyrwyr celfyddydau cyfryngau&#8217;r Brifysgol.<\/p>\n\n<p>Dyma ychydig o\u2019r adborth a roddwyd gan aelodau&#8217;r t\u00eem i Leoedd Gorau i Weithio Broadcast: &#8220;Pwyslais gwirioneddol ar amrywiaeth&#8221;, &#8220;Diwylliant cyfeillgar iawn&#8221;, &#8220;Llawer o olau naturiol, bwyd a phlanhigion&#8221;, &#8220;Cyfleoedd parhaus&#8221;, &#8220;Arweinyddiaeth frwdfrydig&#8221;, &#8220;Ymdrechu tuag at ragoriaeth&#8221; a &#8220;Pobl weithgar a chl\u00ean, sy\u2019n dymuno llwyddiant i\u2019w gilydd&#8221;.<\/p>\n\n<p>Mae cynyrchiadau presennol Whisper yn cynnwys Fformiwla Un, Women&#8217;s Super League, Pencampwriaeth Chwe Gwlad y Merched, NFL, Y Gemau Paralympaidd, Criced Rhyngwladol, SailGP a\u2019r W Series. Mae&#8217;r cwmni hefyd ag adran adloniant brand ffyniannus.<\/p>\n","protected":false},"featured_media":2058,"template":"","class_list":["post-2057","news","type-news","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"acf":[],"aioseo_notices":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/2057","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news"}],"about":[{"href":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/news"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2058"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2057"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}