{"id":2034,"date":"2022-01-05T11:52:00","date_gmt":"2022-01-05T11:52:00","guid":{"rendered":"http:\/\/whisper-tv.local\/article\/sibrydion-yn-llogi-jemma-goba-fel-pennaeth-brandio-a-digidol\/"},"modified":"2023-03-24T12:08:58","modified_gmt":"2023-03-24T12:08:58","slug":"sibrydion-yn-llogi-jemma-goba-fel-pennaeth-brandio-a-digidol","status":"publish","type":"news","link":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/article\/sibrydion-yn-llogi-jemma-goba-fel-pennaeth-brandio-a-digidol\/","title":{"rendered":"WHISPER YN CYFLOGI JEMMA GOBA FEL PENNAETH CYNNWYS WEDI\u2019I FRANDIO A DIGIDOL"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img decoding=\"async\" width=\"1080\" height=\"1080\" src=\"https:\/\/whisper-cymru.onyx-sites.io\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/WELCOMEJEMMAGOBA.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-1114\" srcset=\"https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/WELCOMEJEMMAGOBA.jpg 1080w, https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/WELCOMEJEMMAGOBA-300x300.jpg 300w, https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/WELCOMEJEMMAGOBA-600x600.jpg 600w, https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/WELCOMEJEMMAGOBA-900x900.jpg 900w\" sizes=\"(max-width: 1080px) 100vw, 1080px\" \/><\/figure>\n<p>Mae Whisper yn falch o gyhoeddi bod Jemma Goba wedi ymuno \u00e2 Whisper fel Pennaeth Cynnwys Wedi\u2019i Frandio a Digidol wrth iddyn nhw geisio ehangu eu cylch gwaith digidol ac wedi\u2019i frandio yn 2022.\u00a0Y llynedd, tyfodd Whisper o fod yn gwmni ag 80 o weithwyr i fod \u00e2 thros 200 aelod o staff, gan ennill cytundebau digidol newydd gyda World Rugby ac UEFA.<\/p>\n\n<p>Mae Jemma yn ymuno o Tanami, y cwmni cynhyrchu llwyddiannus y gwnaeth hi ei gyd-sefydlu yn 2013. Gwerthwyd Tanami yn 201,7 ond arhosodd Jemma gyda nhw fel Partner Rheoli yn ogystal \u00e2 chymryd lle ar fwrdd The Leith Agency. Bu\u2019r cwmni\u2019n gyfrifol am greu cynnwys hysbysebu llwyddiannus ar gyfer cleientiaid fel Scottish Rugby, The Macallan, IHG a Brand Scotland.<\/p>\n\n<p>Yn ei swydd newydd, bydd Jemma yn arwain t\u00eem cynnwys wedi\u2019i frandio Whisper; mae\u2019r rhestr cleientiaid presennol yn cynnwys UBS, Red Bull, Barclays a Manchester City. Bydd hefyd yn annog twf digidol. Erbyn hyn mae gan Whisper d\u00eem digidol \u00e2 thros 25 aelod, ac maen nhw\u2019n gweithio ar sawl cyfrif adnabyddus, gan gynnwys UEFA, World Rugby ac F1. Enillodd eu cyfres ddigidol, Whistle Watch, wobr y Cynnwys Gwreiddiol Gorau yng ngwobrau Sport Broadcast 2021.<\/p>\n\n<p>O dan arweiniad Jemma, bydd Whisper yn ceisio adeiladu ar eu llwyddiannau ac ehangu i\u2019r gofod masnachol, gan ddefnyddio eu profiad o adrodd straeon yn effeithiol er mwyn creu cynnwys cryf a chreadigol ar gyfer ymgyrchoedd brand, hysbysebion teledu a deiliaid hawliau.<\/p>\n\n<p>Mae Jemma wedi gweithio gyda McCann a&#8217;r BBC yn y gorffennol, ac mae hi hefyd yn gyfarwyddwr anweithredol ar Glwb P\u00eal-droed Hibernian. Bydd yn gweithio&#8217;n agos gyda&#8217;r Rheolwr Gyfarwyddwr, Mark Cole, a chyda\u2019r Cyfarwyddwr Masnachol a Phartneriaethau, Geoff Riding, er mwyn nodi cyfleoedd busnes newydd ac i ehangu sylfaen cleientiaid Whisper.<\/p>\n\n<p><strong>Dywedodd Sunil Patel, Prif Swyddog Gweithredol Whisper<\/strong>: &#8220;Mae Jemma yn llawn syniadau creadigol, ac mae ganddi awch i wneud y mwyaf o hunaniaeth brand er mwyn creu argraff, ac mae hynny\u2019n cyd-fynd yn dda ag amcanion Whisper i ehangu ein timau cynnwys wedi\u2019i frandio a digidol. Mae ei phrofiad mewn cynhyrchu cynnwys wedi\u2019i frandio, yn ogystal \u00e2 rheoli timau mawr, yn golygu y bydd hi&#8217;n ychwanegiad hynod werthfawr i&#8217;r t\u00eem.\u201d<\/p>\n\n<p><strong>Dywedodd Jemma Goba:<\/strong> &#8220;Rydw i wedi bod yn dilyn Whisper ers tro, ac mae&#8217;r ffordd maen nhw wedi cyrraedd safle mor flaenllaw ym maes cynhyrchu chwaraeon mewn cyfnod cymharol fyr wedi gnweud argraff fawr arnaf. Mae\u2019r ffordd maen nhw&#8217;n ehangu i genres newydd yn eu hadran ddigidol yn drawiadol, felly mae&#8217;n amser gwych i ymuno \u00e2&#8217;r t\u00eem a rhoi hwb i\u2019w cynnwys wedi\u2019i frandio i&#8217;r lefel nesaf.&#8221;<\/p>\n\n<p>Sefydlwyd Whisper yn 2010 gan y darlledwr Jake Humphrey, y Cynhyrchydd Sunil Patel a&#8217;r cyn-yrrwr F1 David Coulthard. Yn 2020, prynodd Sony Pictures Television gyfran leiafrifol yn y cwmni. Mae eu busnes darlledu chwaraeon yn cynnwys Criced Rhyngwladol, Women&#8217;s Super League ac F1.<\/p>\n","protected":false},"featured_media":2035,"template":"","class_list":["post-2034","news","type-news","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"acf":[],"aioseo_notices":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/2034","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news"}],"about":[{"href":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/news"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2035"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2034"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}