{"id":2029,"date":"2022-01-27T11:48:00","date_gmt":"2022-01-27T11:48:00","guid":{"rendered":"http:\/\/whisper-tv.local\/article\/whisper-yn-penodi-exec-pete-thomas-wedi-ennill-gwobr-fel-pennaeth-chwaraeon\/"},"modified":"2023-03-24T12:08:53","modified_gmt":"2023-03-24T12:08:53","slug":"whisper-yn-penodi-exec-pete-thomas-wedi-ennill-gwobr-fel-pennaeth-chwaraeon","status":"publish","type":"news","link":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/article\/whisper-yn-penodi-exec-pete-thomas-wedi-ennill-gwobr-fel-pennaeth-chwaraeon\/","title":{"rendered":"WHISPER YN PENODI PETE THOMAS YN BENNAETH CHWARAEON"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img decoding=\"async\" width=\"1080\" height=\"1080\" src=\"https:\/\/whisper-cymru.onyx-sites.io\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/PETETHOMAS.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-1110\" srcset=\"https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/PETETHOMAS.jpg 1080w, https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/PETETHOMAS-300x300.jpg 300w, https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/PETETHOMAS-600x600.jpg 600w, https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/PETETHOMAS-900x900.jpg 900w\" sizes=\"(max-width: 1080px) 100vw, 1080px\" \/><\/figure>\n<p>Mae Whisper yn falch o gadarnhau y bydd Pete Thomas yn ymuno \u00e2&#8217;r cwmni fel Pennaeth Chwaraeon ddydd Llun 31 Ionawr, gan atgyfnerthu eu t\u00eem cynhyrchu chwaraeon dan arweiniad Mark Cole a than oruchwyliaeth eu Prif Swyddog Gweithredol, Sunil Patel.<\/p>\n\n<p>Mae gan Pete dros 15 mlynedd o brofiad ym maes darlledu chwaraeon, gan gynnwys p\u00eal-droed yr Uwch-gynrhair, P\u00eal-droed Merched, Cynghrair y Pencampwyr UEFA, yr NFL a Rygbi, ac mae mewn sefyllfa berffaith i arwain a datblygu portffolio chwaraeon llwyddiannus Whisper.<\/p>\n\n<p>Mae Pete yn ymuno o Noah Media Group, lle bu\u2019n cynhyrchu a chyfarwyddo nifer o raglenni dogfen gan gynnwys\u00a0<em>Finding Jack Charlton<\/em>. Enwebwyd y rhaglen am wobr y Rhaglen Ddogfen Chwaraeon Orau yng Ngwobrau Grierson ac yng ngwobrau Broadcast, ac enillodd Wobr Dewis y Golygydd yng Ngwobrau Broadcast Sport 2021.<\/p>\n\n<p>Roedd hefyd yn rhan hollbwysig o&#8217;r t\u00eem a greodd\u00a0<em>The Last Leg<\/em>\u00a0ac roedd yn Uwch Gynhyrchydd ar ddarllediadau C4 o\u2019r Gemau Paralympaidd yn gynharach eleni, sy&#8217;n addas iawn i Whisper, cynhyrchwyr Y Gemau Paralympaidd. Enillodd darllediadau Whisper o gemau 2020 wobr Cynhyrchiad Chwaraeon Gorau (Quadrennial), yng Ngwobrau Broadcast Sport 2021.<\/p>\n\n<p>Yn ogystal \u00e2 chynhyrchu rhaglenni byw o ddigwyddiadau chwaraeon mawr, gan gynnwys Criced Rhyngwladol, y Women\u2019s Super League a Fformiwla 1, mae gan Whisper adran rhaglenni chwaraeon heb ei sgriptio hefyd, gan gynnwys tri phrosiect cyffrous ar y gweill gyda darlledwyr a ffrydwyr adnabyddus. Bydd talent a phrofiad Pete yn allweddol wrth reoli cyfeiriad golygyddol a chreadigol allbwn chwaraeon Whisper.<\/p>\n\n<p><strong>Dywedodd Mark Cole:<\/strong>\u00a0&#8220;Byddai llawer yn eiddigeddus o gredydau cynhyrchu Pete a\u2019i brofiad helaeth mewn chwaraeon byw, rhaglenni adloniant a rhaglenni dogfen, felly rydyn ni\u2019n falch iawn ei fod wedi ymuno \u00e2 ni i arwain ein t\u00eem chwaraeon. Mae&#8217;n gwybod sut i greu ffilmiau y gall cynulleidfaoedd eu caru ac ymgolli ynddynt, ac mae wedi cynhyrchu cynnwys arbennig ar gyfer ITV Sport, BBC, C4, FIFA a BT Sport. Mae gan Pete brofiad gwirioneddol o arwain a datblygu timau, felly bydd yn ychwanegiad gwych ac rydyn ni\u2019n edrych ymlaen at ei groesawu ddiwedd mis Ionawr.&#8221;<\/p>\n\n<p><strong>Dywedodd Pete Thomas<\/strong>: &#8220;Dwi\u2019n edrych ymlaen at gwrdd \u00e2 phawb ac i fwrw ati gyda\u2019r broses greadigol gyda&#8217;r t\u00eem yn Whisper. Mae digwyddiadau chwaraeon yn cynnig drama heb-ei-ail yn ogystal \u00e2 rhai o\u2019r eiliadau mwyaf cofiadwy o adloniant ar y teledu. Mae Whisper yn gwybod sut i gyfleu hynny a sut i adrodd y straeon sydd angen eu hadrodd. Mae eu darllediadau arbennig o&#8217;r Gemau Paralympaidd, y cynulleidfaoedd maen nhw\u2019n eu denu gyda\u2019r WSL, a&#8217;r uchelgais sydd ganddynt yn eu darllediadau F1 yn ysbrydoledig, ac rwy&#8217;n falch o gael gweithio gyda gr\u0175p mor dalentog o bobl.&#8221;<\/p>\n","protected":false},"featured_media":2030,"template":"","class_list":["post-2029","news","type-news","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"acf":[],"aioseo_notices":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/2029","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news"}],"about":[{"href":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/news"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2030"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2029"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}