{"id":2002,"date":"2022-07-05T16:50:00","date_gmt":"2022-07-05T16:50:00","guid":{"rendered":"http:\/\/whisper-tv.local\/article\/mae-hiliol-chwaraeon-modur-merched-wedii-gynhyrchu-merched-yn-denu-1-miliwn-o-gynulleidfa-du-tv\/"},"modified":"2023-03-24T12:04:14","modified_gmt":"2023-03-24T12:04:14","slug":"mae-hiliol-chwaraeon-modur-merched-wedii-gynhyrchu-merched-yn-denu-1-miliwn-o-gynulleidfa-du-tv","status":"publish","type":"news","link":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/article\/mae-hiliol-chwaraeon-modur-merched-wedii-gynhyrchu-merched-yn-denu-1-miliwn-o-gynulleidfa-du-tv\/","title":{"rendered":"RHAGLEN RASIO CEIR MERCHED A GYNHYRCHWYD GAN WHISPER YN DENU DROS 1 MILIWN O WYLWYR TELEDU YN Y DU"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img decoding=\"async\" width=\"1920\" height=\"1280\" src=\"https:\/\/whisper-cymru.onyx-sites.io\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/WS2204_140958MS1_3201.jpeg\" alt=\"\" class=\"wp-image-1074\" srcset=\"https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/WS2204_140958MS1_3201.jpeg 1920w, https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/WS2204_140958MS1_3201-300x200.jpeg 300w, https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/WS2204_140958MS1_3201-600x400.jpeg 600w, https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/WS2204_140958MS1_3201-900x600.jpeg 900w, https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/WS2204_140958MS1_3201-1200x800.jpeg 1200w, https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/WS2204_140958MS1_3201-1800x1200.jpeg 1800w\" sizes=\"(max-width: 1920px) 100vw, 1920px\" \/><\/figure>\n<p>Llwyddodd W Series, sef y bencampwriaeth rasio modur un sedd ryngwladol i ferched, i ddenu uchafbwynt anhygoel o 1 miliwn o wylwyr teledu yn y DU ar gyfer eu ras yn Silverstone y penwythnos hwn.<\/p>\n\n<p>Whisper yw&#8217;r darlledwr ar gyfer W Series, ac ar gyfer pob ras y nhw sy\u2019n cynhyrchu\u2019r Ffrwd Byd a ddefnyddir gan ddarlledwyr yn rhyngwladol, gan gynnwys Sky Sports, sy&#8217;n darlledu pob ras a phob rhagbrawf yn fyw.<\/p>\n\n<p>Roedd Channel 4 hefyd yn dangos darllediadau byw ac am ddim o&#8217;r Grand Prix Prydeinig a gynhaliwyd yn Silverstone y penwythnos diwethaf, gan olygu bod y ras wedi&#8217;i darlledu&#8217;n fyw ar Channel 4 a Sky am y tro cyntaf erioed, gan gyrraedd brig cyfunol o dros 1 miliwn o wylwyr teledu yn y DU.<\/p>\n\n<p>Mae&#8217;r gynulleidfa record hon yn golygu mai dyma\u2019r ras \u00e2 mwyaf o wylwyr yn hanes y W Series, ac mae&#8217;n golygu mai\u2019r penwythnos W Series yn Silverstone oedd y digwyddiad chwaraeon modur mwyaf poblogaidd ers 2014 ac eithrio F1.<\/p>\n\n<p>Roedd dros 710k o wylwyr ar gyfartaledd wedi gwylio Jamie Chadwick (Jenner Racing, 24, DU) yn ennill ei chweched ras W Series yn olynol, gan barhau \u00e2\u2019i dechrau perffaith i&#8217;r tymor.<\/p>\n\n<p>Dywedodd Catherine Bond Muir (Prif Swyddog Gweithredol, W Series): &#8220;Roeddwm yn awyddus iawn i sicrhau mai 2022 oedd tymor mwyaf y W Series hyd yn hyn, ac rwy&#8217;n hynod falch ein bod wedi llwyddo yn hyn o beth, ond dydyn ni ddim wedi gorffen eto. Mae gennym uchelgeisiau mawr ar gyfer twf parhaus y W Series, ac mae cefnogaeth ein partneriaid darlledu yn golygu y gallwn ni gyflwyno rasio anhygoel i gynulleidfa fyd-eang sy&#8217;n ehangu trwy\u2019r adeg a pharhau i ymdrechu i ysbrydoli cymaint o fenywod a merched \u00e2 phosibl i fentro i fyd chwaraeon modur.&#8221;<\/p>\n\n<p>Mae W Series yn un o nifer o gampau merched a gynhyrchir gan Whisper; mae eu portffolio chwaraeon merched hefyd yn cynnwys p\u00eal-droed (Cwpan yr FA, WSL, EURO 2022), rygbi, criced, bocsio ac MMA.<\/p>\n\n<p>Roedd Whisper yn fyw trwy gydol y penwythnos diwethaf yn cynhyrchu rhaglenni Fformiwla Un ac W Series ar gyfer Channel 4, yn ogystal ag uchafbwyntiau Criced y BBC a Rygbi S4C.<\/p>\n","protected":false},"featured_media":2003,"template":"","class_list":["post-2002","news","type-news","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"acf":[],"aioseo_notices":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/2002","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news"}],"about":[{"href":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/news"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2003"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2002"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}