{"id":1995,"date":"2022-05-19T16:57:00","date_gmt":"2022-05-19T16:57:00","guid":{"rendered":"http:\/\/whisper-tv.local\/article\/dogfen-ben-stokes-gyda-sam-mendes-ir-blaenoriaeth-ar-fideo-prime-wedwed\/"},"modified":"2023-03-24T12:07:32","modified_gmt":"2023-03-24T12:07:32","slug":"dogfen-ben-stokes-gyda-sam-mendes-ir-blaenoriaeth-ar-fideo-prime-wedwed","status":"publish","type":"news","link":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/article\/dogfen-ben-stokes-gyda-sam-mendes-ir-blaenoriaeth-ar-fideo-prime-wedwed\/","title":{"rendered":"RHAGLEN DDOGFEN BEN STOKES, GYDA SAM MENDES, I\u2019W DANGOS AM Y TRO CYNTAF AR PRIME VIDEO"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img decoding=\"async\" width=\"1920\" height=\"1280\" src=\"https:\/\/whisper-cymru.onyx-sites.io\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/220218_WHISPER_BEN_STOKES_154.jpeg\" alt=\"\" class=\"wp-image-1081\" srcset=\"https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/220218_WHISPER_BEN_STOKES_154.jpeg 1920w, https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/220218_WHISPER_BEN_STOKES_154-300x200.jpeg 300w, https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/220218_WHISPER_BEN_STOKES_154-600x400.jpeg 600w, https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/220218_WHISPER_BEN_STOKES_154-900x600.jpeg 900w, https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/220218_WHISPER_BEN_STOKES_154-1200x800.jpeg 1200w, https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/220218_WHISPER_BEN_STOKES_154-1800x1200.jpeg 1800w\" sizes=\"(max-width: 1920px) 100vw, 1920px\" \/><\/figure>\n<p>Bydd Ben Stokes: Phoenix from the Ashes, Rhaglen Ddogfen Amazon Original Newydd gyda Sam Mendes, i\u2019w gweld ledled y byd yn hwyrach eleni ar Prime Video<\/p>\n\n<p>Mae Ben Stokes: Pheonix from the Ashes yn trin a thrafod uchafbwyntiau ac isafbwyntiau capten criced Lloegr yn dilyn cyfnod heriol yn ei fywyd personol a phroffesiynol<\/p>\n\n<p>Bydd y ffilm, sydd hefyd yn cynnwys Sam Mendes, i\u2019w gweld ledled y byd am y tro cyntaf ar Prime Video yn hwyrach eleni<\/p>\n\n<p>Gallwch gael cipolwg ohoni <a href=\"https:\/\/twitter.com\/primevideosport\/status\/1527249960701509634\" data-type=\"URL\" data-id=\"https:\/\/twitter.com\/primevideosport\/status\/1527249960701509634\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">yma<\/a><\/p>\n\n<p>Cyhoeddodd Prime Video heddiw y byddant yn lansio rhaglen ddogfen wreiddiol ar fywyd a gyrfa capten criced Lloegr, Ben Stokes, yn hwyrach ymlaen eleni. Gwnaed y cyhoeddiad yn y Prime Video Presents Showcase yn Llundain, lle bu Stokes yn siarad \u00e2\u2019r cyfarwyddwr a\u2019r enillydd Oscar <href target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Sam Mendes (1917) mewn cyfweliad a recordiwyd ymlaen llaw, a hynny er mwyn egluro ei resymeg dros wneud y rhaglen ddogfen ac i adael i eraill gael cipolwg ar stori ei fywyd.<\/href><\/p>\n\n<p>Wedi\u2019i chynhyrchu gan Whisper, cr\u00ebwyd Ben Stokes: Phoenix from the Ashes gyda\u2019r cyfarwyddwr a\u2019r enillydd Oscar, Sam Mendes, sy&#8217;n ymddangos ar y sgrin mewn cyfres o gyfweliadau i drafod uchafbwyntiau ac isafbwyntiau gyrfa&#8217;r eicon criced. Mae\u2019r rhaglen ddogfen yn adrodd hanes taith Ben, gan drafod ei lwyddiannau yng Nghwpan y Byd a\u2019i gampau ar y cae yn Headingley yn ogystal \u00e2&#8217;i isafbwyntiau a ddaeth ar draul bersonol enfawr, ac a berodd iddo orfod gadael y g\u00eam am gyfnod.<\/p>\n\n<p>Llwyddodd y criw i ddal eiliadau mwyaf personol a heriol Ben ar ffilm, gan gynnwys ei ymweliad olaf \u00e2\u2019i dad, oedd \u00e2 salwch angheuol, yn ogystal \u00e2\u2019i drafferthion gydag iechyd meddwl. Mae\u2019r ffanatig criced Sam Mendes yn ymuno \u00e2 Ben ar y sgrin wrth iddo adrodd ei hanes, a Mendes oedd cynhyrchydd gweithredol y ffilm hefyd. Mae Ben Stokes: Phoenix from the Ashes yn cynnwys cyfweliadau agos-atoch gyda thad Ben, ei fam, ei wraig a&#8217;i blant ynghyd \u00e2 ffrindiau, teulu ei gyn gyd-chwaraewyr a rhai a chwaraeodd yn ei erbyn, gan gynnwys:\u00a0Joe Root, Jofra Archer, Neil Fairbrother a\u2019r diweddar Shane Warne.<\/p>\n\n<p>Ar \u00f4l y datgeliad yn Prime Video Presents, dywedodd Stokes, &#8220;Un peth dwi am geisio ei wneud gyda hyn yw dangos ochr o\u2019n hun sy&#8217;n eithaf anodd ei dangos, o ystyried sut rydyn ni i fod i ymddangos ar y teledu. Mae rhai agweddau yn y cyfryngau yn gorfod cael eu trin mewn ffyrdd penodol, rhaid ymddwyn mewn ffordd benodol, er mwyn plesio nifer penodol o bobl, ond gyda\u2019r ffilm hon dw i ddim yn teimlo fel fy mod i&#8217;n gorfod gwneud hynny.<\/p>\n\n<p>\u201cDwi&#8217;n dal i feddwl ei bod hi&#8217;n wallgof fy mod i\u2019n eistedd yma gyda rhaglen ddogfen wedi cael ei gwneud amdana i. Ac ar ben hynny, bod Sam wedi dod i wneud y cyfweliadau. Mae&#8217;r holl beth yn wirion bost pan fydda i\u2019n meddwl amdano.&#8221;<\/p>\n\n<p>Dywedodd Sam Mendes, &#8220;Pan wnaethon nhw ofyn i mi fod yn rhan o&#8217;r rhaglen ddogfen wych hon, cytunais o fewn rhyw ddeg eiliad. Mae &#8216;na ddirgelwch o gwmpas Ben Stokes, a llawer o gwestiynau ro&#8217;n i eisiau eu gofyn. Er mawr syndod i mi, fe atebodd bob un.<\/p>\n\n<p>&#8220;Roeddwn i wastad yn ffan o Ben fel cricedwr &#8211; does dim modd peidio os ydych chi&#8217;n hoffi chwaraeon ar y lefel uchaf &#8211; ond mae fy edmygedd bellach yn ymestyn ymhell y tu hwnt i ffiniau criced.&#8221;<\/p>\n\n<p>Mae Ben Stokes: Phoenix from the Ashes wedi&#8217;i chyfarwyddo gan Chris Grubb a Luke Mellows, gyda Sam Mendes, Mark Cole a Sunil Patel yn gynhyrchwyr gweithredol.<\/p>\n","protected":false},"featured_media":1996,"template":"","class_list":["post-1995","news","type-news","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"acf":[],"aioseo_notices":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/1995","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news"}],"about":[{"href":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/news"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1996"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1995"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}