{"id":1977,"date":"2022-08-04T16:35:42","date_gmt":"2022-08-04T16:35:42","guid":{"rendered":"http:\/\/whisper-tv.local\/article\/whisper-yn-cyflwyno-ffilm-hyrwyddo-sinematig-ar-gyfer-usyk-v-joshua-2-rage-ar-y-mor-coch\/"},"modified":"2023-03-24T12:03:32","modified_gmt":"2023-03-24T12:03:32","slug":"whisper-yn-cyflwyno-ffilm-hyrwyddo-sinematig-ar-gyfer-usyk-v-joshua-2-rage-ar-y-mor-coch","status":"publish","type":"news","link":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/article\/whisper-yn-cyflwyno-ffilm-hyrwyddo-sinematig-ar-gyfer-usyk-v-joshua-2-rage-ar-y-mor-coch\/","title":{"rendered":"WHISPER YN CYFLWYNO FFILM HYRWYDDO SINEMATIG AR GYFER USYK V JOSHUA 2, RAGE ON THE RED SEA"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img decoding=\"async\" width=\"1920\" height=\"1280\" src=\"https:\/\/whisper-cymru.onyx-sites.io\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/UsykvJoshua2.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-1063\" srcset=\"https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/UsykvJoshua2.jpg 1920w, https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/UsykvJoshua2-300x200.jpg 300w, https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/UsykvJoshua2-600x400.jpg 600w, https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/UsykvJoshua2-900x600.jpg 900w, https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/UsykvJoshua2-1200x800.jpg 1200w, https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/UsykvJoshua2-1800x1200.jpg 1800w\" sizes=\"(max-width: 1920px) 100vw, 1920px\" \/><\/figure>\n<p>Mae Whisper wedi cynhyrchu a chyflwyno ffilm ddramatig er mwyn hyrwyddo\u2019r ornest pwysau trwm hir ddisgwyliedig rhwng Oleksandar Usyk ac Anthony Joshua a fydd yn cael ei chynnal yn Jeddah yn hwyrach yn y mis.<\/p>\n\n<p>Ar ddydd Sadwrn 20 Awst yn Jeddah, Saudi Arabia, bydd Usyk, pencampwr pwysau trwm yr WBA, yr IBF a\u2019r WBO, yn brwydro i gadw ei deitl yn erbyn Joshua, sydd wedi bod yn bencampwr pwysau trwm ddwywaith yn y gorffennol ac wedi ennill medal aur Olympaidd, mewn ailornest o\u2019r enw Rage on the Red Sea.<\/p>\n\n<p>Mae&#8217;r ffilm hyrwyddo yn dilyn paratoadau&#8217;r ddau focsiwr, adref yn ogystal ag yn Jeddah, a daw\u2019r ffilm i ben yn ardal Al-Balad yr hen dref hanesyddol, gyda\u2019r ddau yn dod wyneb yn wyneb, gyda thros 300 o bobl leol wedi ymgynnull i\u2019w gwylio.<\/p>\n\n<p>Cynhyrchwyd y ffilm gan d\u00eem adloniant wedi\u2019i frandio Whisper ar gyfer Skill Challenge Entertainment a chafodd ei ffilmio mewn sawl lleoliad yn y DU ac yn Jeddah.<\/p>\n\n<p>Roedd y t\u00eem yn awyddus i\u2019r prosiect hwn gyfleu bwrlwm grymus brwydr fwyaf y flwyddyn, yn ogystal ag arddangos lleoliad unigryw Jeddah ar gyfer yr ornest. Gan weithio gyda Dominic O\u2019Riordan, un o gyfarwyddwyr mwyaf blaenllaw&#8217;r diwydiant sydd wedi creu ffilmiau masnachol i Adidas, BAFTA, Nike a Visa ymysg eraill, mae&#8217;r ffilm hyrwyddo yn dod \u00e2 chynnwrf chyffro&#8217;r frwydr yn fyw.<\/p>\n\n<p>Gan weithio ar y cyd ag asiantaethau creadigol a chynhyrchu lleol, roedd Whisper yn arwain criw cynhyrchu \u00e2 thros 60 aelod, gan ddefnyddio camer\u00e2u Sony Venice gyda lensys anamorffig Panavision B er mwyn sicrhau canlyniadau sinematig.<\/p>\n\n<p>\u201cRoedd gweithio gyda Whisper a Skill Challenge Entertainment i greu&#8217;r ffilm hon yn brofiad anhygoel,&#8221; yn \u00f4l Dominic O&#8217;Riordan. &#8220;Pan ddarllenais y sgript gychwynnol, roeddwn yn llawn cyffro o feddwl y byddwn yn cael AJ ac Usyk i wynebu ei gilydd yn yr olygfa olaf. Mae hyn yn brin iawn mewn ffilmiau hyrwyddo bocsio gan eich bod fel arfer yn gorfod ffilmio\u2019r bocswyr ar wah\u00e2n. Roedd y cyfle i ddal y foment honno mewn lleoliad mor sinematig yn rhywbeth cyffrous iawn.&#8221;<\/p>\n\n<p>Ychwanegodd Jemma Goba, Pennaeth Adloniant Wedi\u2019i Frandio a Digidol Whisper: &#8220;Mae&#8217;n gyfnod cyffrous i&#8217;r t\u00eem adloniant wedi\u2019i frandio yn Whisper. Rydyn ni wedi gweithio ar brosiectau anhygoel yn barod eleni, ac wedi cydweithio \u00e2 phobl hynod dalentog, a gwych oedd gallu dod \u00e2 th\u00eem cystal at ei gilydd ar gyfer y ffilm hon. Ein nod yn oedd cyfleu drama a chyffro\u2019r ornest, ynghyd ag arddangos dinas hanesyddol a hardd Jeddah, ac rwy&#8217;n falch iawn o&#8217;r hyn a gyflawnwyd gennym.&#8221;<\/p>\n\n<p>Dan arweiniad Jemma Goba, mae Whisper yn ehangu cylch gwaith masnachol y cwmni, gan ddefnyddio ein profiad o adrodd straeon grymus er mwyn creu cynnwys cryf a chreadigol ar gyfer ymgyrchoedd brandio, hysbysebion teledu ac ar gyfer deiliaid hawliau.<\/p>\n\n<p>Mae t\u00eem arobryn Whisper eisoes yn gweithio gyda chleientiaid fel UBS, Red Bull, Barclays, Peloton, Manchester City, a gwnaeth eu gwaith \u00e2 World Rugby, Whistle Watch, enill y wobr am y Cynnwys Gwreiddiol Gorau yng Ngwobrau Darlledu Chwaraeon 2021.<\/p>\n","protected":false},"featured_media":1978,"template":"","class_list":["post-1977","news","type-news","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"acf":[],"aioseo_notices":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/1977","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news"}],"about":[{"href":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/news"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1978"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1977"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}