{"id":1972,"date":"2022-08-08T14:43:00","date_gmt":"2022-08-08T14:43:00","guid":{"rendered":"http:\/\/whisper-tv.local\/article\/sibrydion-i-gynnyrch-darllediad-gwestiol-ar-gyfer-joshua-v-usyk-ii-rage-on-the-red-sea\/"},"modified":"2023-03-24T12:03:25","modified_gmt":"2023-03-24T12:03:25","slug":"sibrydion-i-gynnyrch-darllediad-gwestiol-ar-gyfer-joshua-v-usyk-ii-rage-on-the-red-sea","status":"publish","type":"news","link":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/article\/sibrydion-i-gynnyrch-darllediad-gwestiol-ar-gyfer-joshua-v-usyk-ii-rage-on-the-red-sea\/","title":{"rendered":"WHISPER I GYNHYRCHU DARLLEDIAD JOSHUA V USYK II, RAGE ON THE RED SEA"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img decoding=\"async\" width=\"2400\" height=\"1600\" src=\"https:\/\/whisper-cymru.onyx-sites.io\/wp-content\/uploads\/2022\/12\/UsykAJLondon-whisper.jpeg\" alt=\"Usyk yn wynebu AJ\" class=\"wp-image-428\" srcset=\"https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2022\/12\/UsykAJLondon-whisper.jpeg 2400w, https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2022\/12\/UsykAJLondon-whisper-300x200.jpeg 300w, https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2022\/12\/UsykAJLondon-whisper-600x400.jpeg 600w, https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2022\/12\/UsykAJLondon-whisper-900x600.jpeg 900w, https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2022\/12\/UsykAJLondon-whisper-1200x800.jpeg 1200w, https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2022\/12\/UsykAJLondon-whisper-1800x1200.jpeg 1800w\" sizes=\"(max-width: 2400px) 100vw, 2400px\" \/><\/figure>\n<p>Mae\u2019r hyrwyddwyr Skill Challenge Entertainment wedi dewis Whisper i ddarparu&#8217;r Darllediad Ffrwd Byd ar gyfer gornest Oleksandr Usyk v Anthony Joshua II, gornest pwysau trwm mwyaf y flwyddyn.<\/p>\n\n<p>Ar ddydd Sadwrn 20 Awst yn Jeddah, Saudi Arabia, bydd Usyk, pencampwr pwysau trwm yr WBA, yr IBF a\u2019r WBO, yn brwydro i gadw ei deitl yn erbyn Joshua, sydd wedi bod yn bencampwr pwysau trwm ddwywaith yn y gorffennol ac wedi ennill medal aur Olympaidd, mewn ailornest o\u2019r enw Rage on the Red Sea.<\/p>\n\n<p>Fel cwmni cynhyrchu chwaraeon sydd ag enw da yn rhyngwladol, bydd Whisper yn defnyddio eu profiad sylweddol o gynhyrchu darllediadau er mwyn dangos y digwyddiad ledled y byd, gan weithio gyda phartneriaid darlledu rhyngwladol gan gynnwys Sky Sports Box Office yn y DU.<\/p>\n\n<p>Mae t\u00eem cynhyrchu Whisper yn cynnwys Pennaeth Chwaraeon Whisper, Pete Thomas, sydd wedi gweithio ar ornestau pencampwr y byd gyda Joe Calzaghe, Amir Khan, Carl Froch a Tyson Fury yn nyddiau glas ei yrfa, ynghyd \u00e2 Chyfres Bocsio&#8217;r Byd. Yn ymuno ag ef mae&#8217;r Cynhyrchydd Gweithredol, John Curtis, sydd wedi treulio\u2019r 15 mlynedd ddiwethaf ym myd bocsio yn gweithio ar ddigwyddiadau talu-i-wylio, megis Mayweather v Pacquiao, Klitschko v Fury a Froch v Groves. Bydd Bethan Evans, Cyfarwyddwr Cynhyrchu Whisper, a\u2019r Cynhyrchwyr Gweithredol, Sunil Patel a Mark Cole, hefyd yn ymuno \u00e2 nhw. Bydd y t\u00eem cyflawni\u2019n cynnwys aelodau o&#8217;r DU, yn ogystal \u00e2 chriw lleol.<\/p>\n\n<p>Mae Whisper yn gweithio gyda Chapter 3 Graphics i greu effeithiau clyweledol gwych ynghyd \u00e2 rhaglen oleuo effeithiol a difyr i\u2019w darlledu i filiynau o amgylch y byd.<\/p>\n\n<p>Mae Whisper eisoes wedi cynhyrchu dau ddigwyddiad lansio ar gyfer y wasg er mwyn hyrwyddo&#8217;r ornest (yn Jeddah ac yn Llundain) yn ogystal \u00e2 chreu ffilm hyrwyddo safonol a ryddhawyd yr wythnos ddiwethaf.<\/p>\n\n<p><strong>Sunil Patel, Prif Swyddog Gweithredol Whisper<\/strong>: &#8220;<em>Teitl pwysau trwm y Bencampwriaeth yw un o wobrau mwyaf y byd chwaraeon. Mae hwn yn ddigwyddiad mawr, ac rydyn ni\u2019n rhannu uchelgais Skill Challenge Entertainment i sicrhau y bydd Rage On The Red Sea yn ornest a gaiff ei chofio ledled y byd. Rydyn ni wrth ein boddau yn darparu digwyddiadau chwaraeon o bwys sy\u2019n diddanu&#8217;r byd, ac mae hon yn foment enfawr ym myd bocsio. Pob clod i John Curtis am ei holl waith wrth sicrhau&#8217;r cyfle hwn ac i holl d\u00eem Whisper am wneud iddo ddigwydd.&#8221;<\/em><\/p>\n\n<p>A hwythau\u2019n adnabyddus am ddarparu rhaglenni chwaraeon fel adloniant, mae Whisper ar hyn o bryd yn cynhyrchu rhaglenni Fformiwla Un, EURO 2022 y Merched, Y Gemau Paralympaidd, Criced Rhyngwladol, Rygbi Rhyngwladol a llawer mwy. Mae eu darllediadau\u2019n cynnwys Bellator, West Indies Cricket, W Series Racing, New Zealand Cricket, Rygbi Merched a Ph\u00eal-droed Merched.<\/p>\n","protected":false},"featured_media":1974,"template":"","class_list":["post-1972","news","type-news","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"acf":[],"aioseo_notices":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/1972","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news"}],"about":[{"href":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/news"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1974"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1972"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}