{"id":1962,"date":"2023-01-16T07:45:00","date_gmt":"2023-01-16T07:45:00","guid":{"rendered":"http:\/\/whisper-tv.local\/article\/whisper-partner-cynhyrchu-wimbledon-a-benodwyd\/"},"modified":"2023-03-17T15:23:28","modified_gmt":"2023-03-17T15:23:28","slug":"whisper-partner-cynhyrchu-wimbledon-a-benodwyd","status":"publish","type":"news","link":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/article\/whisper-partner-cynhyrchu-wimbledon-a-benodwyd\/","title":{"rendered":"PENODI WHISPER YN BARTNER CYNHYRCHU WIMBLEDON"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img decoding=\"async\" width=\"1080\" height=\"1080\" src=\"https:\/\/whisper-cymru.onyx-sites.io\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/Wimbledon-Announcement-v1.3.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-1374\" srcset=\"https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/Wimbledon-Announcement-v1.3.jpg 1080w, https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/Wimbledon-Announcement-v1.3-300x300.jpg 300w, https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/Wimbledon-Announcement-v1.3-600x600.jpg 600w, https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/Wimbledon-Announcement-v1.3-900x900.jpg 900w\" sizes=\"(max-width: 1080px) 100vw, 1080px\" \/><\/figure>\n<p>Mae Whisper yn falch o gyhoeddi eu bod wedi&#8217;u penodi&#8217;n Bartner Cynhyrchu Gwasanaethau Darlledu Wimbledon (WBS) ar gyfer Pencampwriaethau 2023 a 2024, a fydd yn cael eu cynnal yng Nghlwb Tennis Lawnt Lloegr Gyfan (AELTC).<\/p>\n\n<p>Gyda\u2019r contract helaeth hwn bydd Whisper yn gyfrifol am gynhyrchu\u2019r ffrwd byd eang, yr uchafbwyntiau rhyngwladol, ffilm hyrwyddo greadigol yn ogystal \u00e2 ffilm swyddogol o\u2019r Bencampwriaeth. Hefyd, byddant yn gyfrifol am gynhyrchu casgliad o gynnwys difyr a gafaelgar ar gyfer yr AELTC, gan sicrhau bod gwylwyr yn cael y profiad gorau, waeth pa blatfform neu fformat maen nhw\u2019n ei ddefnyddio. Mae Whisper a WBS eisoes yn cydweithio ar gynlluniau uchelgeisiol ac arloesol ar gyfer y Pencampwriaethau sydd i ddod.<\/p>\n\n<p>Caiff y Pencampwriaethau eu cydnabod fel twrnament tennis mwyaf mawreddog yn y byd, gyda thros 500,000 o ymwelwyr yn dod i\u2019r Pencampwriaethau bob blwyddyn, a miliynau&#8217;n gwylio ledled y byd. A hwythau ar flaen y gad wrth ddarparu chwaraeon fel adloniant, bydd Whisper yn darparu cynnwys uchelgeisiol yn y digwyddiad enwog ac yn ehangu brand eiconig Wimbledon ymhellach.<\/p>\n\n<p>Dangoswyd gallu Whisper i ddarparu cynnwys beiddgar a thrawiadol o bencampwriaethau chwaraeon y llynedd wrth iddynt gyflwyno cystadleuaeth EURO Merched UEFA gyda&#8217;r BBC, a nhw oedd y Darlledwr ar gyfer yr RLWC2021 yn 2022, gan ddenu\u2019r cynulleidfaoedd mwyaf erioed ar gyfer y pencampwriaethau hyn.<\/p>\n\n<p>Yn 2022, gweithiodd Whisper gyda&#8217;r LTA i ddarparu cynnwys digidol i ehangu ap\u00eal y gamp, gan gynnwys cyfres gyda&#8217;r gyrrwr Billy Monger i hyrwyddo tennis cadair olwyn a chynnwys proffil uchel gydag Andy Murray.<\/p>\n\n<p>Dywedodd <strong>Paul Davies, Pennaeth Darlledu, Cynhyrchu a Hawliau\u2019r Cyfryngau yn yr AELTC,<\/strong>: &#8220;Rydyn ni\u2019n hynod falch o fod yn bartner gyda Whisper; bydd eu dawn cynhyrchu a dweud straeon yn arwain at gynnwys ffres a chreadigol ar gyfer ein cynulleidfa fyd-eang sy&#8217;n ehangu. Gyda\u2019u gwaith \u00e2 rhai o enwau mwyaf chwaraeon mae Whisper wedi newid y dirwedd o ran cynhyrchu rhaglenni chwaraeon, ac rydyn ni\u2019n edrych ymlaen at ddangos eu cynnyrch i&#8217;n darlledwyr, i\u2019n partneriaid masnachol, ac ar ein llwyfannau ein hunain hefyd.&#8221;<\/p>\n\n<p>Ychwanegodd <strong>Rheolwr Gyfarwyddwr Whisper, Mark Cole<\/strong>: &#8220;Mae hwn yn gyfle gwych i weithio gydag un o frandiau chwaraeon mwyaf y byd, ac rydyn ni\u2019n falch iawn o fod yn bartner gyda&#8217;r AELTC i ddarparu cynnwys darlledu a digidol o ansawdd uchel dros y ddwy flynedd nesaf.<\/p>\n\n<p>&#8220;Rydyn ni\u2019n hyderus y bydd ein ffilmiau creadigol, ein gallu i adrodd straeon mewn ffordd greadigol, a\u2019n dulliau dyfeisgar yn creu bwrlwm o amgylch Y Pencampwriaethau ac yn gwella profiad y cefnogwyr. Gyda ffocws ar adloniant, ein nod gyda\u2019n cynnwys fydd i fod yn drawiadol ac i gyflwyno cynulleidfaoedd newydd, iau i&#8217;r digwyddiad anhygoel hwn&#8221;.<\/p>\n\n<p>Mae Whisper wedi gweithio ar lefel uchaf chwaraeon sawl gwaith, ac maen nhw hefyd yn bartner cynhyrchu ar gyfer cynnwys darlledu a digidol UEFA. Maen nhw wedi\u2019u cynnwys ar restr Lleoedd Gorau i Weithio Broadcast bum gwaith, ac wedi ennill gwobr Sioe Adloniant Chwaraeon Gorau y ddwy flynedd ddiwethaf (&#8216;Today in Tokyo&#8217; yn 2021 ac Uchafbwyntiau C4F1 yn 2022).<\/p>\n","protected":false},"featured_media":1963,"template":"","class_list":["post-1962","news","type-news","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"acf":[],"aioseo_notices":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/1962","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news"}],"about":[{"href":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/news"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1963"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1962"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}