{"id":1961,"date":"2023-01-17T20:30:00","date_gmt":"2023-01-17T20:30:00","guid":{"rendered":"http:\/\/whisper-tv.local\/article\/sony-lluniau-teledu-a-sibrwd-or-gogledd-i-lansio-sioe-siarad-newydd-hwyr-y-nos-gyda-craig-ferguson\/"},"modified":"2023-03-17T15:23:21","modified_gmt":"2023-03-17T15:23:21","slug":"sony-lluniau-teledu-a-sibrwd-or-gogledd-i-lansio-sioe-siarad-newydd-hwyr-y-nos-gyda-craig-ferguson","status":"publish","type":"news","link":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/article\/sony-lluniau-teledu-a-sibrwd-or-gogledd-i-lansio-sioe-siarad-newydd-hwyr-y-nos-gyda-craig-ferguson\/","title":{"rendered":"SONY PICTURES TELEVISION A WHISPER NORTH I LANSIO SIOE SGWRSIO HWYRNOS SYNDICETIEDIG NEWYDD GYDA CRAIG FERGUSON"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img decoding=\"async\" width=\"1920\" height=\"1080\" src=\"https:\/\/whisper-cymru.onyx-sites.io\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/Craig-Ferguson.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-1470\" srcset=\"https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/Craig-Ferguson.jpg 1920w, https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/Craig-Ferguson-300x169.jpg 300w, https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/Craig-Ferguson-600x338.jpg 600w, https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/Craig-Ferguson-900x506.jpg 900w, https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/Craig-Ferguson-1200x675.jpg 1200w, https:\/\/whisper.tv\/wp-content\/uploads\/2023\/01\/Craig-Ferguson-1800x1013.jpg 1800w\" sizes=\"(max-width: 1920px) 100vw, 1920px\" \/><\/figure>\n<h2 class=\"wp-block-heading\">CHANNEL SURF WITH CRAIG FERGUSON I\u2019W DARLLEDU AM Y TRO CYNTAF YN HYDREF 2023<\/h2>\n\n<p>Heddiw cyhoeddodd Sony Pictures Television (SPT) y bydd sioe sgwrsio hwyrnos syndicetiedig  newydd hanner awr o hyd gyda Craig Ferguson yn cyflwyno, \u00a0<em>Channel Surf with Craig Ferguson<\/em>,\u00a0yn cael ei chynhyrchu gan Whisper North a\u2019i dosbarthu gan SPT.<\/p>\n\n<p>Yn ei gyfres newydd\u00a0<em>Channel Surf with Craig Ferguson<\/em>\u00a0bydd Craig Ferguson yn dychwelyd at sioeau sgwrsio hwyrnos am y tro cyntaf ers 2014, gan ymuno \u00e2\u2019i ffrindiau i adolygu eiliadau mwyaf ysgytwol, annisgwyl a doniol rhaglenni\u2019r wythnos. Gyda\u2019i hiwmor dihafal, bydd barn Ferguson ar hoff sioeau\u2019r genedl yn saff o gael gwylwyr yn chwerthin, yn crio, neu\u2019n taflu pethau tuag at y sgrin! Ferguson a Tom McLennan, sef Rheolwr Gyfarwyddwr Gogledd Whisper a Chyfarwyddwr Entertainment North ITV gynt, fydd y cynhyrchwyr gweithredol, a Richard Easter (<em>America&#8217;s Got Talent<\/em>\u00a0a\u00a0<em>You\u2019ve Been Framed<\/em>) a Joe Bolter (<em>The Late Late Show with Craig Ferguson)<\/em>\u00a0sydd wedi gweithio gyda Ferguson ers bron i 15 mlynedd, fydd awduron y sioe.<\/p>\n\n<p>&#8220;Gyda phrinder o sitcomau ar gael i orsafoedd, mae gwylwyr angen rhywbeth i wneud iddyn nhw chwerthin.\u00a0<em>Channel Surf\u00a0<\/em>yw&#8217;r sioe berffaith ar gyfer hynny.\u00a0Mae Craig yn dalent ryfeddol sydd wedi rhagori mewn rhaglenni o bob math, ac mae ganddo ymwybyddiaeth wych.\u00a0Mae&#8217;r gwylwyr yn ei adnabod ac yn ei garu. Mae\u2019r peilot a ffilmiwyd gyda Craig yn hynod ddoniol, ac rydyn ni ar bigau i ailgyflwyno ein prynwyr i\u2019w ddoniau, ac yn edrych ymlaen at roi cyfle i gynulleidfaoedd wylio&#8217;r sioe ddoniol iawn hon,&#8221; meddai Zack Hernandez, SVP, US Syndication Sales, SPT.<\/p>\n\n<p>&#8220;Roeddwn i\u2019n awyddus i wneud\u00a0<em>Channel Surfing<\/em>\u00a0gan fy mod i\u2019n credu bod y byd teledu\u2019n barod ar gyfer dychweliad y fformat pyped gwirion\/doniol\/lip-synch achlysurol.\u00a0Hefyd, mae&#8217;n rhaglen sy&#8217;n cynnwys clipiau amheus o raglenni eraill, ac felly&#8217;n creu turducken gweledol o dwpdra ysblennydd,&#8221; meddai&#8217;r cyflwynydd Craig Ferguson.<\/p>\n\n<p>&#8220;Mae gweithio gyda Craig unwaith eto yn rhywbeth sy\u2019n fy llenwi \u00e2 chyffro.\u00a0 Ef yw&#8217;r person doniolaf i mi weithio \u00e2 nhw erioed, ac mae ei egni a&#8217;i greadigrwydd yn heintus. Mae&#8217;n anrhydedd bod yn gynhyrchydd gweithredol ar gyfer\u00a0<em>Channel Surfing<\/em>\u00a0ac i weld Craig unwaith eto yn gwneud yr hyn mae&#8217;n ei wneud orau: bod yn onest, yn ddiymhongar ac yn hynod ddoniol,&#8221; meddai Tom McLennan, Rheolwr Gyfarwyddwr Whisper North.<\/p>\n\n<p>Mae Craig Ferguson yn actor sydd wedi ennill sawl gwobr Emmy\u00ae a Peabody yn ogystal \u00e2 chael enwebiad am Grammy, mae\u2019n awdur, yn gynhyrchydd, yn gyfarwyddwr ac yn ddigrifwr sydd wedi cael gyrfa amrywiol ym mydoedd ffilm, teledu a&#8217;r llwyfan. Mae&#8217;n un o awduron gwerthiant gorau y\u00a0<em>New York Times<\/em>\u00a0ac mae wedi recordio nifer o raglenni comedi arbennig ar gyfer Netflix, Epix, Comedy Central ac Amazon. Cafodd sioe hynod boblogaidd\u00a0<em>The Late Late Show with Craig Ferguson<\/em>\u00a0ei darlledu ar CBS am ddeng mlynedd, ac mae&#8217;n parhau i fod yn ffefryn ar YouTube, gyda miliynau bob blwyddyn yn gwylio clipiau a gaiff eu llwytho gan ei gefnogwyr. Ers gadael Late Night, aeth Ferguson yn ei flaen i gyflwyno\u00a0<em>Celebrity Name Game<\/em><strong>\u00a0<\/strong>(2014-2017) a\u00a0<em>The Hustler<\/em><strong>\u00a0<\/strong>(2021) ar ABC. Yn fwyaf diweddar, bu\u2019n perfformio ei gomedi stand-yp i gynulleidfaoedd ledled Gogledd America yn 2022. Cynrychiolir Ferguson gan WME, Vault Entertainment a Gang, Tyre, Ramer, Brown &amp;Amp; Passman.<\/p>\n\n<p>Ffilmiwyd peilot ar gyfer\u00a0<em>Channel Surf with Craig Ferguson<\/em>\u00a0yn y DU y mis hwn, a bydd SPT yn dangos y sioe i brynwyr posib yn Los Angeles yr wythnos hon.<\/p>\n\n<p>Mae Whisper North, a lansiwyd yn 2021, yn cynhyrchu fformatau adloniant ac mae eisoes wedi ennill tri chomisiwn mawr.\u00a0Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae Gr\u0175p Whisper wedi ehangu ei hadran rhaglenni heb ei sgriptio&#8217;n sylweddol, gan gynnwys sioe gwis ITV,\u00a0<em>Riddiculous<\/em>, rhaglen ddogfen premiwm\u00a0\u00a0<em>Ben Stokes; Phoenix from the Ashes\u00a0<\/em>ar gyfer Amazon, yn ogystal \u00e2 rhaglen <em>Billy Connolly Does&#8230;\u00a0<\/em>ar gyfer UKTV.\u00a0\u00a0.<\/p>\n","protected":false},"featured_media":1471,"template":"","class_list":["post-1961","news","type-news","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"acf":[],"aioseo_notices":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/1961","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news"}],"about":[{"href":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/news"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1471"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/whisper.tv\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1961"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}